Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

“Ystyried y perygl o lifogydd yn awr ac yn y dyfodol mewn ardaloedd awdurdodau lleol”

  • Tweet
Tuesday, 15 February, 2022
  • Senedd News
flooding

Cafodd achosion o lifogydd ledled Cymru ym mis Chwefror 2020 effaith ddinistriol a pharhaol ar ein cymunedau. Bu llifogydd eang yn ystod Storm Ciara (8 – 9 Chwefror 2020), Storm Dennis (15 – 17 Chwefror 2020) a Storm Jorge (28 Chwefror i 1 Mawrth 2020). Fe wnaeth y stormydd hyn arwain at lifogydd mewn 3,130 o adeiladau ar hyd a lled Cymru, sy'n golygu mai dyma'r gyfres o lifogydd fwyaf arwyddocaol ers llifogydd Rhagfyr 1979, a effeithiodd ar lawer o'r un cymunedau.

 

Er bod cyllid refeniw ar gyfer Llinell Wariant yn y Gyllideb Rheoli Risg Llifogydd a Refeniw Dŵr yn werth £41.415 miliwn, cynnydd o £12 miliwn ers 2021-22, mae Janet Finch-Saunders,  Aelod o’r Senedd Aberconwy a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro a ydynt wedi ystyried y perygl o lifogydd mewn ardaloedd awdurdodau lleol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

 

Wrth sôn am gyllid ar gyfer taclo llifogydd mewn awdurdodau lleol, dywedodd Janet:

 

“Rwy'n croesawu'r cynnydd mewn cyllid refeniw ar gyfer Awdurdodau Rheoli Risg yn 2022-23, ond yr hyn mae etholwyr ledled Cymru, o Gaerffili i Gonwy, am ei wybod yw a yw'r dyraniad yn ddigon.

 

“I sicrhau'r eglurder sydd ei angen, mae hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn camu ymlaen ac yn  cadarnhau eu bod wedi ystyried y risg gyfredol ac amcanol o lifogydd mewn ardaloedd awdurdod lleol.

 

“Roeddwn i'n aelod o'r ymchwiliad i ymateb Llywodraeth Cymru i lifogydd mis Chwefror 2020, ac roedd ein hadroddiad a gyhoeddwyd yn 2020 yn dweud bryd hynny bod lefel yr arian refeniw yn golygu bod awdurdodau lleol ymhell o fod yn barod a chydnerth, a bod awdurdodau'n derbyn yr un faint o refeniw waeth beth oedd y perygl o lifogydd eu hardal nhw.

 

“Er enghraifft, cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, un o'r ardaloedd a gafodd ei tharo waethaf gan lifogydd mis Chwefror, 4.54% o'r cyllid refeniw cenedlaethol er ei fod yn gorfod rheoli tua 21% o'r perygl llifogydd dŵr wyneb cenedlaethol.

 

“Cefnogais argymhelliad clir y dylai dull Llywodraeth Cymru o ddyrannu refeniw ar gyfer llifogydd ystyried y risg bresennol o lifogydd mewn ardaloedd awdurdodau lleol a’r risg a ragwelir yn y dyfodol ynddynt. Dros flwyddyn yn ddiweddarach, mae'n frawychus nad oes unrhyw gadarnhad a yw'r dyraniad refeniw yn ystyried perygl llifogydd".

You may also be interested in

Janet

Welcoming Proposal to Ban Single-Use Plastics on Fresh Produce

Thursday, 6 November, 2025
Yesterday, Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy and the Welsh Conservative Shadow Minister for Climate Change and the Environment, welcomed Rhys ab Owen MS’s Member’s Legislative Proposal to create a Bill banning the use of single-use plastic on fruits and vegetables.&n

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree