Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Ymweliad â Queen's Road yn 'gam cyntaf cadarnhaol' tuag at welliannau'r ffordd

  • Tweet
Monday, 14 December, 2020
  • Local News
Environmental Issues

Ffoto: Janet Finch-Saunders MS/AS, Cllr Greg Robbins (Cabinet Member), Cllr Antony Bertola, Cllr Francis Davies, and Cllr M. A. Pearce. Also in attendance were members of the Friends of Queen’s Park.    

Mae'r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi cynnal ymweliad safle (gan gadw pellter cymdeithasol) â Queen's Road, Craig-y-Don, i drafod pa fesurau gostegu traffig y gellir eu cyflwyno i sicrhau diogelwch cerddwyr ymhellach. Roedd cynghorwyr, trigolion a swyddogion y Cyngor hefyd yn bresennol. 

Mae llawer o'r trigolion wedi poeni ers tro byd am oryrru ar hyd Queen's Road. Dywed Mrs Finch-Saunders y dylai unrhyw newidiadau arfaethedig i wella diogelwch ar y ffyrdd "adlewyrchu'r defnydd cynyddol o Barc Craig-y-Don, yn dilyn ymgyrch lwyddiannus a hirsefydlog i fuddsoddi mewn offer maes chwarae."

Wrth sôn am y cyfarfod, dywedodd Janet:  

“Wedi ymgyrch lwyddiannus i gynyddu buddsoddiad yn ardal chwarae Craig-y-Don, mae'r broblem traffig lleol yn achosi risg wirioneddol i ddiogelwch plant bach. Mae cyflymder cerbydau sy'n defnyddio Queen's Road wedi bod yn  destun pryder allweddol ers blynyddoedd lawer, gyda thrigolion yn dweud wrthyf eu bod nhw'n arswydo o feddwl am groesi'r lôn.

“Queen's Road yw un o'r prif lwybrau i'n promenâd byd-enwog a busnesau lleol gwych. O ystyried pwysigrwydd strategol y briffordd, sy'n rhedeg drwy galon ein cymuned, nid wyf yn synnu bod trigolion yn poeni am ddiogelwch cerddwyr. 

“Roedd yr ymweliad safle hwn, ochr yn ochr â chynghorwyr lleol a swyddogion y Cyngor, yn gam cyntaf pwysig a chadarnhaol tuag at wireddu newidiadau angenrheidiol yn y tymor hwy. Ond mae damwain ddiweddar ar y briffordd wedi'n hysgogi i sicrhau bod camau mwy uniongyrchol a gweladwy yn cael eu cymryd hefyd.

“Rwyf wedi meddwl ers tro byd bod rhaid i unrhyw fuddsoddiad arfaethedig i Queen's Road adlewyrchu'r defnydd cynyddol o'r parc lleol rhagorol, sydd dan ofal arbennig Cyfeillion y Parc. Bu aelodau'r grŵp hwn, fel yr Is-gyrnol Jeff Wright MBE, yn gweithio'n ddiflino i gynnal a chadw'r llecyn gwyrdd croesawgar hwn.  

“Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'r grŵp gweithredu lleol gwych hwn am helpu i bwyso am y gwelliannau ffyrdd lleol hyn, ynghyd â'r plant ysgol sydd wedi cyfrannu at ganolbwynt carreg newydd gwych sy'n diolch o galon i staff gwych y gwasanaeth iechyd am eu hymdrechion gydol y pandemig.” 

DIWEDD

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree