Fel rhan o’i hymgyrch i rybuddio am beryglon amgylcheddol barbeciw untro, ar ôl ysgrifennu at 13 manwerthwr yn galw am adolygiad o’u penderfyniadau stoc er mwyn rhoi’r gorau i’w gwerthu, mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd Aberconwy – wedi croesawu cadarnhad nad oes gan Aldi gynlluniau pellach i werthu barbeciw untro eleni a’u bod ar hyn o bryd yn adolygu eu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Cadarnhaodd yr archfarchnad y byddant hefyd yn ystyried pryderon yr Aelod ynghylch yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd.
Mae Mrs Finch-Saunders hefyd wedi derbyn cadarnhad gan Grŵp Coop eu bod wedi tynnu barbeciws untro oddi ar eu silffoedd mewn siopau yn neu o fewn radiws milltir i Barciau Cenedlaethol y DU. Nodwyd yn eu llythyr:
“Mae miliynau o farbeciws untro yn cael eu gwerthu bob blwyddyn ac yn cael eu defnyddio yn ddiogel a’u mwynhau gan y mwyafrif llethol o bobl. Fodd bynnag, mae llawer o Barciau Cenedlaethol a rhai tirfeddianwyr wedi cyflwno gwaharddiad ar eu defnydd. Gwnaethom y penderfyniad hwn i helpu defnyddwyr, a fydd yn aml yn prynu’r barbeciws untro ar y ffordd i Barciau Cenedlaethol, i gefnogi’r gwaharddiadau lleol.
Wrth groesawu’r croeso cynnes a dderbyniwyd gan fanwerthwyr, dywedodd Janet:
“Ar ôl ysgrifennu at fanwerthwyr amrywiol gan ofyn iddynt gymryd safbwynt arweinyddiaeth ecolegol gyfeillgar drwy ymrwymo i roi’r gorau i werthu barbeciws untro yn ystod tymor yr haf nesaf, rydw i wrth fy modd yn derbyn ymatebion sy’n ymddangos fel petaen nhw’n deall yn llawn bryderon fy etholwyr ac yn gwerthfawrogi’r rhesymau drostynt.
“Mae’n wych nad oes gan Aldi y bwriad i werthu barbeciws untro eto eleni a’u bod yn adolygu eu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Er bod croeso cynnes i ddull rhagweithiol y Coop o roi’r gorau i’w gwerthu o fewn radiws o gwmpas y Parciau Cenedlaethol, rwy’n poeni nad yw hyn yn cydnabod natur teithio twristiaid a’r ffaith y gellir prynu’r barbeciws untro peryglus hyn mewn mannau eraill.
“Nid ein Parciau Cenedlaethol yw’r unig dirwedd sydd mewn perygl yn sgil y cynnyrch hwn, gan y gellir eu defnyddio mewn lleoliadau anaddas fel dan goed neu ger glaswelltir hir, llwyni neu ffensys a all gynnau yn hawdd. Maen nhw wedi cynnau sawl bin yn Llandudno ac mae etholwyr wedi mynegi pryderon eu bod yn cael eu gadael dan dywod gan losgi traed pobl.
“Mae’r cyfrifoldeb am daclo’r pryderon hyn yn nwylo defnyddwyr a manwerthwyr, ar y cyd. Gallwn ni fel defnyddwyr wastad gwneud mwy i adolygu ein harferion prynu a’r effaith ar yr amgylchedd. Ond mae gan fanwerthwyr hefyd rôl a gallant helpu i ddylanwadu ar arferion – a dyna pam y byddwn yn hoffi eu gweld yn dechrau gwerthu barbeciws cludadwy bach y gellir eu defnyddio dro ar ôl tro.
“Er mwyn i waharddiad llwyr ar eu gwerthu ddod i rym, rwy’n llawn gydnabod y byddai angen dull diwydiant cyfan ledled y DU. Dyna pam fy mod i wedi dechrau’r drafodaeth hon gyda’n manwerthwyr er mwyn i’r siopau allu dod at ei gilydd i ddod i benderfyniad ar y cyd sydd er lles ein hamgylchedd a diogelwch y cyhoedd.”
DIWEDD