Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru ar y sefyllfa garthu yn ‘tanseilio preswylwyr Dyffryn Conwy’

  • Tweet
Monday, 22 February, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (22 Chwefror), siaradodd Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog yr Amgylchedd yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig ac Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - am ei phryder am y diffyg tystiolaeth wyddonol glir a ddefnyddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru i bennu’r effaith y bydd carthu yn ei chael ar Afon Conwy.

Wrth ymateb i adroddiad llifogydd lleol yr Aelod y llynedd, dywedodd asiantaeth Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud penderfyniadau ar y ffordd orau o fynd i’r afael â’r risg ar sail pob achos yn unigol, gan ddefnyddio gwybodaeth beirianyddol a thystiolaeth o sut mae pob afon yn ymateb “i sicrhau ein  bod yn rhoi’r gwerth gorau i’r trethdalwr”. Ar y pryd, roedden nhw’n honni eu bod wedi pennu y byddai difrifoldeb y digwyddiad a swm y dŵr a gafwyd yn y digwyddiadau llifogydd diweddar wedi bod yn ormod i unrhyw sianel a fyddai wedi’i hagor ar ôl tynnu silt yn Nolgarrog.

Mewn ymateb i lythyr a anfonwyd yn gynt yn y mis, am bryderon lleol am y silt a oedd yn casglu ar wely’r afon, mae CNC wedi dweud:

“Ni allwn gyfiawnhau defnyddio ein hadnoddau prin i bennu effaith carthu eang, yn enwedig gan fod cyllid ein rhaglen gynnal a chadw yn seiliedig ar ei effaith ar lifogydd i bobl ac eiddo.”

Mae Mrs Finch-Saunders eto wedi galw am esboniad brys ynghylch pa adolygiadau gwyddonol o effaith diweddar sydd wedi’u cynnal gan yr asiantaeth i bennu pa effaith y bydd carthu’r afon yn ei chael.

Gan roi sylw ar yr angen am eglurder, dywedodd Janet:

“O ystyried awgrym blaenorol y sefydliad bod penderfyniadau ar y ffordd orau o fynd i’r afael â’r risg hon wedi’u gwneud ar sail unigol a fesul achos, a wnaed mewn perthynas â’m hadroddiad ar lifogydd 2020, teimlais ei bod yn bwysig sefydlu ar ba sail y gwnaed y penderfyniad pwysig hwn.

“Rydw i wedi fy siomi’n fawr ar ôl derbyn ymateb sy’n awgrymu nad oes unrhyw adolygiad gwyddonol o effaith wedi’i gynnal yn ddiweddar i garthu ar Afon Conwy, yn sgil prinder adnoddau.

“Mae hyn yn groes i’w honiad yn fy adroddiad llifogydd ac yn tanseilio’r ymddiriedaeth y mae trigolion Dyffryn Conwy wedi'i rhoi yn yr asiantaeth i sicrhau diogelwch rhag llifogydd. Rydw i wir yn credu bod gan y tîm yn CNC fwriadau da, ond eu bod wedi’u llethu.

“Amcangyfrifir bod angen hyd at 70 aelod o staff ychwanegol i gynnal y gwasanaeth cyffredinol ar y lefelau a ddisgrifir gan y camau a’r gwelliannau yn adroddiad Llifogydd yng Nghymru Chwefror 2020, ond mae’r cyllid sydd wedi’i dderbyn ond yn medru cyflogi hyd at 36 gweithiwr llawn amser cyfwerth - sef hanner yr hyn sydd ei angen.

“Rwy’n erfyn eto ar CNC i ddarparu’r dystiolaeth beirianyddol a gwyddonol a ddefnyddiwyd i nodi’n flaenorol y byddai difrifoldeb y digwyddiad a swm y dŵr a gafwyd yn y llifogydd diweddar wedi bod yn ormod i unrhyw sianel a fyddai wedi’i hagor ar ôl tynnu silt yn Nolgarrog”.

DIWEDD

 

You may also be interested in

Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Wednesday, 28 January, 2026
Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree