Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Y Frenhines yn Cadw ei Choron

  • Tweet
Thursday, 26 August, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi croesawu’r newyddion bod Llandudno wedi cael ei henwi’n dref arfordirol harddaf Cymru i ymweld â hi, yn ôl ymchwil newydd ar ardaloedd glan môr. Brenhines trefi glan môr Cymru yw’r seithfed dref arfordirol harddaf yn y DU, gyda sgôr o 21.6.

Yn ôl yr astudiaeth gan ymchwilwyr yn SlotsUp, dyma’r trefi arfordirol harddaf yn y DU:

  1. Bournemouth, Dorset – sgôr 36.1 / 60
  2. St Ives, Cernyw – 29.4
  3. Hastings, Dwyrain Sussex – 29.1
  4. Padstow, Cernyw – 27.4
  5. Ilfracombe, Dyfnaint – 26
  6. Salcombe, Dyfnaint – 25.4
  7. Llandudno, Conwy – 21.6
  8. Southwold, Suffolk – 18.3
  9. Margate, Caint – 15.8
  10. Filey, Gogledd Swydd Efrog – 14.9

Wrth sôn am lwyddiant Llandudno, dywedodd Janet:

“Dylai pawb sy’n byw ac yn gweithio yn ein tref fod yn falch ein bod ni’n cynnig y fformiwla fuddugol ar gyfer gwyliau hamddenol yng Nghymru.

“Ar ôl blwyddyn a hanner erchyll i letygarwch, mae’n hwb gwych i gael ar ddeall bod ymdrech ein cymuned yn arwain at gynnal enw da Llandudno.

“Mae gwestai yn llawn, mae buddsoddiadau sylweddol yn cael eu gwneud i ehangu’r arlwy twristiaeth, ac mae cymaint o angerdd dros gryfhau’r sector hyd yn oed ymhellach.

“Rwy’n siŵr y bydd Llandudno nid yn unig yn cadw ei choron, ond yn parhau i fod yn ganolfan gogoneddus i ymwelwyr allu teithio gogledd Cymru gyfan ohoni”.

DIWEDD

Llun: Janet Finch-Saunders AS

You may also be interested in

janet

Senior Consultant Concerns Over Delays to the Pre-Operative Assessment Raised in Senedd Cymru

Thursday, 17 September, 2026
Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Bangor Conwy Môn, has written to the Cabinet Minister for Health and Care and the Chief Executive of Betsi Cadwaladr University Health Board, calling for urgent action to address reported cancellations of operations due to delays in the Pr

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Bangor Conwy Môn

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree