Mae Janet Finch-Saunders AS Aberconwy wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y bwriad i ailagor Pont Dolgarrog, yn dilyn cyfarfod rhithwir gyda rhanddeiliaid gan gynnwys Dŵr Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a thirfeddianwyr lleol. Mae'r bont bibellau wedi'i chau i ddefnyddwyr lleol oherwydd pryderon diogelwch sylweddol. Roedd y rhain yn cynnwys cyflwr dirywiol y deciau pren a'r angen i osod mesurau ychwanegol i ddiogelu'r pibellau sy'n cyflenwi dŵr i dros 9,000 o gartrefi yn y Gogledd.
Wrth sôn am y cynnydd, dywedodd Janet:
“Pan benderfynwyd cau Pont Dolgarrog yn barhaol, daeth ein cymuned at ei gilydd i bwysleisio a gwerthfawrogi pwysigrwydd y groesfan. Ers mis Mawrth, rwyf wedi bod yn falch o weithio gyda rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru, ac unwaith eto, wedi llwyddo i ddod â grwpiau allweddol at ei gilydd mewn cyfarfod rhithwir i ganfod ffordd gadarnhaol ymlaen.
“Yn hanfodol, yn ystod y cyfarfod hwn, cytunodd yr holl randdeiliaid fod angen cynyddu hygyrchedd a mynediad i'r orsaf. Byddai hyn yn golygu ystyried gosod goleuadau isel a mynediad i bobl anabl fel rhan o'r astudiaeth ddichonoldeb, gan helpu i gefnogi cynllun teithio llesol ac ymwybyddiaeth o'r amgylchedd lleol.
“Er nad yw'r bont bibellau yn hawl tramwy dynodedig, mae'r holl randdeiliaid wedi ymrwymo i gynnal gwaith a fydd yn arwain at wella ac ailagor y llwybr. Er nad yw'n bosib cadarnhau pryd yn union fydd y bont bibell yn ailagor, mae gwaith brys yn digwydd y tu ôl i'r llenni i newid pethau.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Roedd aelodau'r cyfarfod, dan gadeiryddiaeth Janet Finch-Saunders AS, yn cynnwys Robin Millar Aelod Seneddol, Ian Christie (Dŵr Cymru), Lee Robinson a Lowri Joyce (Trafnidiaeth Cymru), Glyn Evans (Cynghorydd Teithio Llesol), y Cynghorydd Greg Robbins (Aelod o'r Cabinet), Andrew Wilkinson (CBSC), y Cynghorydd Austin Roberts, y Cynghorydd Samantha Cotton, y Cynghorydd Dafydd Williams, y Cynghorydd Philip Evans, Stephen Phillips (Tirfeddiannwr), Andy Ainscough (Adventure Parc Snowdonia), Richard Brunstrom (Cymdeithas Eryri), John Mather (Cycling UK), Dafydd Trystan (Bwrdd Teithio Llesol Cymru), a Gwen Thomas (Sustrans).
Llun: Janet Finch-Saunders AS