Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Y Cynllun Dychwelyd Ernes – galw am ymrwymiad i dderbyn cloriau a chapiau plastig

  • Tweet
Tuesday, 30 November, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mewn cwestiwn i’r Prif Weinidog, mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid a’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau y byddai unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol ar gyfer mabwysiadu Cynllun Dychwelyd Ernes yn sicrhau bod cloriau a chapiau plastig yn cael eu derbyn hefyd.

Yn gynharach eleni, sicrhaodd Mrs Finch-Saunders ymrwymiad gan y Prif Weinidog y bydd cynigion am gynllun dychwelyd ernes Cymru gyfan yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd yn yr Hydref.

Yn ymgyrchydd diflino ar y mater, defnyddiodd Gweinidog yr Wrthblaid gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Chweched Senedd i sicrhau ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun dychwelyd ernes ‘cyflawn’.

Gan roi sylwadau y tu allan i’r Siambr, dywedodd Janet:

“Fis Tachwedd y llynedd roeddwn i’n hynod falch o gael cyflwyno cynnig deddfwriaethol am Fil a fyddai’n gwneud darpariaethau ar gyfer cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes. Cefnogodd mwyafrif o 34 Aelod fy nghynnig.

“Yn fy sgyrsiau gyda chynhyrchwyr diodydd, mae wedi dod yn amlwg bod y sector yn parhau i gefnogi cyflwyno Cynllun sydd wedi’i gynllunio’n dda er mwyn sicrhau nad yw’n drysu unrhyw ddefnyddwyr. Byddai sicrhau bod unrhyw Gynllun yn cynnwys popeth yn sicrhau cysondeb ledled y DU, ond hefyd yn cynorthwyo gyda lefelau cymryd rhan.

“Rydym yn gwybod bod rhwng 77% ac 83% o gyfranogwyr mewn arolwg diweddar wedi dweud y byddent yn defnyddio Cynllun Dychwelyd Ernes fel arfer ar gyfer y pum math o gynwysyddion a nodwyd, gan gynnwys poteli plastig, ynghyd â photeli gwydr a thuniau metel ar gyfer pob diod ysgafn ac alcoholaidd.

“Ond mae angen cadarnhad y byddai cynllun o’r fath hefyd yn derbyn cloriau a chapiau plastig, yn enwedig o ystyried bod ymgyrch Great British Beach Clean 2021 y Gymdeithas Cadwraeth Forol wedi dod ar draws 18.7 clawr a chap fesul 100m o draeth, sy’n golygu eu bod yn parhau yn un o’r 5 eitem sbwriel mwyaf cyffredin a ganfuwyd yng Nghymru.”

DIWEDD 

Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS yn mynychu ymgyrch glanhau traethau MCS yn Llandudno.

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree