Yn dilyn rhyddhau ymchwil i nodi Wythnos Gofalwyr 2021, a ganfu fod pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar allu gofalwyr i gael seibiannau, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diweddaru'r ddyletswydd ar y GIG yng Nghymru i nodi gofalwyr, gan sicrhau dull mwy systematig o ymdrin â seibiannau wrth symud ymlaen.
Yn anffodus, dywedodd un o bob tri gofalwr yng Nghymru eu bod yn defnyddio eu seibiannau i gwblhau tasgau ymarferol fel gwaith tŷ. Nawr, mewn Cwestiwn Ysgrifenedig i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mae'r Aelod wedi gofyn:
“Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adolygu a diweddaru'r ddyletswydd sydd ar y GIG yng Nghymru i gefnogi gofalwyr, er mwyn sicrhau dull mwy systematig o wella lles drwy fynediad at seibiannau”
Wrth siarad am y canfyddiadau, dywedodd Janet:
“Mae llawer o ofalwyr wedi bod ar alwad drwy'r dydd, bob dydd yn ystod y pandemig, gan aberthu eu hiechyd corfforol a meddyliol yn gwbl anhunanol i ofalu am anwyliaid. Dyw hwn ddim yn ddull cynaliadwy a rhaid i Fae Caerdydd gydnabod pryder cyffredinol pobl o ran sut gall gofal barhau heb fwy o gymorth.
“Gyda 45% o ymatebwyr Cymru yn dweud nad ydyn nhw'n cael y seibiannau sydd eu hangen arnyn nhw, gan godi i 72% yn ystod y pandemig, mae'n amlwg bod y duedd hon, sy'n peri cryn bryder, wedi hen fwrw gwreiddiau ac yn parhau i fod yn broblem i'n gofalwyr di-dâl. Fel yr ydw i wedi dweud yn y Senedd o'r blaen, mae'n rhaid gwneud mwy nawr er mwyn sicrhau seibiannau i bobl.
“Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch ailgodi'n gryfach, mae'n rhaid i Gymru weithio er mwyn sicrhau bod mynediad at seibiannau yn cael ei wella, a'r tro hwn, sicrhau ei fod yn cael ei neilltuo’n gyfan gwbl ar gyfer adferiad fel y gall ein gofalwyr ganolbwyntio ar eu llesiant a chynnal cysylltiadau cymdeithasol.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, gan dynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu a chydnabod y cyfraniad a wnânt at gymunedau ledled y DU. Thema eleni yw Gwneud Gofalu'n Weladwy a Gwerthfawr.
- Cynhaliodd Carers UK yr arolwg ar-lein rhwng 8 Ebrill a 25 Ebrill 2021. Ymatebodd cyfanswm o 2,850 o ofalwyr a chyn-ofalwyr i'r arolwg. Roedd hyn yn cynnwys 2,754 o ofalwyr cyfredol a 96 o gyn-ofalwyr. Roedd 14% o'r ymatebwyr yn byw yng Nghymru.
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS