Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Bangor, Conwy and Môn, visited the brilliant Orme View Residential Home, located on West Shore in Llandudno, with spectacular views spreading up the Great Orme.
Janet commented:
“Orme View is a fantastic, family-run business that focuses on person-centred care. It has rightly been recognised for its Level 5 food hygiene rating, as well as being rated ‘Excellent’ across all four quality domains.”
Janet continued:
“I would like to thank Steffan Robbins and his lovely wife for the warm welcome to the care home. It was wonderful to meet the happy and lively residents and see them enjoying the brilliant daily recreational activities. There is truly something for everyone to enjoy.”
Janet added:
“Good-quality care homes play a vital role in our communities, providing residents with the care, dignity and support they deserve, while offering families peace of mind that their loved ones are in safe and caring hands.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Ymwelodd Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Fangor Conwy Môn, â Chartref Preswyl gwych Orme View, sydd wedi’i leoli ar Draeth Penmorfa yn Llandudno, gyda golygfeydd ysblennydd o’r Gogarth.
Meddai Janet:
“Mae Orme View yn fusnes gwych sy’n cael ei redeg gan deulu, ac mae’n arbenigo mewn gofal sy’n canolbwyntio ar y person. Mae wedi cael ei gydnabod yn haeddiannol am ei sgôr hylendid bwyd Lefel 5, yn ogystal â’i raddio’n ‘Ardderchog’ ym mhob un o’r pedwar maes ansawdd.”
Parhaodd Janet:
“Hoffwn ddiolch i Steffan Robbins a’i wraig hyfryd am y croeso cynnes i’r cartref gofal. Roedd hi’n braf cwrdd â’r preswylwyr hapus a bywiog a’u gweld yn mwynhau’r gweithgareddau hamdden dyddiol gwych. Mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.”
Ychwanegodd Janet:
“Mae cartrefi gofal o ansawdd da yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, gan ddarparu’r gofal, yr urddas a’r gefnogaeth haeddiannol i breswylwyr, tra’n cynnig tawelwch meddwl i deuluoedd bod eu hanwyliaid mewn dwylo diogel a gofalgar.”
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS