Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, raised the issues of food waste and food insecurity in the Senedd yesterday, emphasising the urgent need for comprehensive food legislation in Wales.
Speaking on the issue of food waste Janet explained that recent data shows Wales generated over 300 million kg of household food waste, averaging 100 kg per person – 75% of this waste was edible and could have fed those in need.
Additionally, the greenhouse gas emissions from this food waste is immense, accounting for nearly a million tonnes of C02 equivalent each year.
Commenting on this Janet said:
“I was glad to raise this important and widespread issue once again. I’m aware that every year, tonnes of food are needlessly wasted. In the hospitality sector alone, we see the disposal of large quantities of perfectly edible fruit, vegetables, and meat every day.
“In addition to the environmental impact, food waste carries a significant financial cost, estimated at around three-quarters of a million pounds annually—equivalent to £250 per person in Wales each year, essentially thrown away.
“A major reason for this waste is people discarding items simply because they are 'past the date on the label,' with 1 in 7 often needlessly tossing perfectly edible food.
“However, the real problem here is that Wales still does not have a single piece of well-rounded legislation that is focused on food in Wales, be that food security or production.
“We rely too heavily on imported food, often with a significant carbon footprint. This issue needs careful consideration, especially before the Welsh Government removes 20% of farmers' land, which would further undermine our food security”.
ENDS
Bu Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn sôn am wastraff bwyd a diffyg diogeledd bwyd yn y Senedd ddoe, gan bwysleisio'r angen brys am ddeddfwriaeth fwyd gynhwysfawr yng Nghymru.
Wrth siarad am wastraff bwyd esboniodd Janet fod data diweddar yn dangos bod Cymru wedi cynhyrchu dros 300 miliwn cilogram o wastraff bwyd cartref, cyfartaledd o 100 cilogram y pen - roedd 75% o'r gwastraff hwn yn fwytadwy ac fe allai fod wedi bwydo'r rhai mewn angen.
Yn ogystal, mae'r allyriadau nwyon tŷ gwydr o'r gwastraff bwyd hwn yn aruthrol, gan gyfrif am yr hyn sy’n gyfwerth â bron i filiwn tunnell o C02 bob blwyddyn.
Wrth sôn am hyn, dywedodd Janet:
"Roeddwn yn falch iawn o godi'r mater pwysig ac eang hwn unwaith eto. Rwy'n ymwybodol bod tunelli o fwyd yn cael eu gwastraffu’n ddiangen bob blwyddyn. Yn y sector lletygarwch yn unig, mae symiau mawr o ffrwythau, llysiau a chig cwbl fwytadwy yn cael eu gwaredu bob dydd.
"Yn ogystal â'r effaith amgylcheddol, mae gwastraff bwyd yn dod â chost ariannol sylweddol, tua thri chwarter miliwn o bunnau bob blwyddyn yn ôl amcangyfrifon – mae hyn yn cyfateb i werth £250 o fwyd y pen yn cael ei daflu i ffwrdd yng Nghymru bob blwyddyn.
"Un rheswm pwysig am y gwastraff hwn yw bod pobl yn taflu eitemau dim ond oherwydd bod 'y dyddiad ar y label wedi pasio’, gydag 1 o bob 7 yn aml yn taflu bwyd cwbl fwytadwy yn ddiangen.
"Fodd bynnag, y broblem wirioneddol yma yw nad oes gan Gymru un darn o ddeddfwriaeth gyflawn o hyd sy'n canolbwyntio ar fwyd, boed hynny ar ddiogeledd bwyd neu gynhyrchu bwyd.
"Rydym yn dibynnu'n ormodol ar fwyd wedi'i fewnforio, yn aml gydag ôl troed carbon sylweddol. Mae angen ystyried y mater hwn yn ofalus, yn enwedig cyn i Lywodraeth Cymru fynd ag 20% o dir ffermwyr, a fyddai'n tanseilio ein diogeledd bwyd ymhellach".
DIWEDD