This week, Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Bangor, Conwy and Môn, spoke in the Senedd about the importance of early diagnosis and treatment for prostate cancer.
More than 2,500 men are diagnosed with prostate cancer in Wales every year, with around 640 men dying from the disease annually. It is vital that men contact their doctors if they feel that something may be wrong or seek medical advice at the earliest opportunity.
Janet commented:
“Prostate cancer is the most common cancer affecting men, yet it remains one of the cancers that is diagnosed far too late. We must all play our part in encouraging the men in our lives to get checked by a doctor if they feel something is wrong or if their partner notices any symptoms. Early detection and treatment can greatly improve a person’s chances of a positive outcome.
“We must also ensure that we have the appropriate surgical equipment to enable prostatectomies to take place in Wales. Currently, some men in North Wales have to travel as far as London for surgery, which is unacceptable. A diagnosis of cancer and the prospect of undergoing surgery are stressful enough without the added burden of travelling long distances and being away from family and support networks.
“We must ensure that we raise awareness of this disease and encourage our family members to seek medical advice if they feel something may be wrong.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Yr wythnos hon, siaradodd Janet Finch-Saunders, AS Bangor Conwy Môn, yn y Senedd am bwysigrwydd diagnosis a thriniaeth gynnar ar gyfer canser y prostad.
Mae mwy na 2,500 o ddynion yn cael diagnosis o ganser y prostad yng Nghymru bob blwyddyn, gyda thua 640 o ddynion yn marw o'r clefyd bob blwyddyn. Mae'n hanfodol bod dynion yn cysylltu â'u meddygon os ydyn nhw'n teimlo y gallai rhywbeth fod o'i le, neu’n cael cyngor meddygol cyn gynted â phosibl.
Meddai Janet:
"Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar ddynion, ond mae'n parhau i fod yn un o'r canserau sy'n cael ei ddiagnosio yn llawer rhy hwyr. Mae'n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan wrth annog y dynion yn ein bywydau i gael eu harchwilio gan feddyg os ydyn nhw'n teimlo bod rhywbeth o'i le neu os yw eu partner yn sylwi ar unrhyw symptomau. Gall canfod a thrin y canser yn gynnar wella siawns person o ganlyniad cadarnhaol yn sylweddol.
"Mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau bod gennym ni’r offer llawfeddygol priodol i alluogi cynnal prostatectomiau yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae rhai dynion yn y Gogledd yn gorfod teithio cyn belled â Llundain ar gyfer llawdriniaeth, sy'n annerbyniol. Mae diagnosis o ganser a'r posibilrwydd o gael llawdriniaeth yn ddigon o straen heb y baich ychwanegol o deithio pellteroedd hir a bod i ffwrdd o deuluoedd a rhwydweithiau cymorth.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth o'r clefyd hwn ac yn annog aelodau ein teulu i ofyn am gyngor meddygol os ydyn nhw'n teimlo y gallai rhywbeth fod o'i le."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders A