Esports and video gaming are fast-growing sectors, contributing an estimated £6 billion to £12 billion in Gross Value Added to the UK economy and supporting around 73,000 full-time jobs. Given the significant economic benefits they bring, Wales should rightly be part of this growing industry.
Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Bangor Conwy Môn and Welsh Conservative Shadow Minister for Enterprise, Connectivity and Energy, commented:
“With the attention surrounding video games such as Grand Theft Auto 6, released today, we have a fantastic opportunity to recognise the economic benefits this industry can bring to Wales and consider how we can play a greater role in it.
“Across Bangor Conwy Môn, we have fantastic video game shops, people taking part in esports competitions, while using their platforms to raise money for good causes, such as Johnny Beard from Llandudno, who raised £50,000 for Tŷ Gobaith children’s hospices.
“It is important that we build on this passion by creating more employment opportunities, developing skills and supporting the growth of this valuable sector.
“While my Welsh Conservative colleagues and I believe that greater emphasis should continue to be placed on encouraging children and adults alike to participate in physical sports, we cannot afford to be left behind in such a fast-growing industry.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Mae e-chwaraeon a gemau fideo yn sectorau sy'n tyfu'n gyflym, gan gyfrannu tua £6 biliwn i £12 biliwn mewn Gwerth Ychwanegol Gros i economi'r DU a chefnogi tua 73,000 o swyddi llawn amser. O ystyried y manteision economaidd sylweddol y maen nhw’n eu cynnig, fe ddylai Cymru fod yn rhan o'r diwydiant twf hwn.
Meddai Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Fangor Conwy Môn a Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni:
"Gyda'r sylw ar gemau fideo fel Grand Theft Auto 6, a ryddhawyd heddiw, mae gennym gyfle gwych i gydnabod y manteision economaidd y gall y diwydiant hwn eu denu i Gymru ac ystyried sut y gallwn chwarae rhan fwy ynddo.
"Ar draws Bangor Conwy Môn, mae gennym siopau gemau fideo gwych, a phobl sy'n cymryd rhan mewn cystadlaethau e-chwaraeon, gan defnyddio eu platfformau i godi arian at achosion da, fel Johnny Beard o Landudno, a gododd £50,000 ar gyfer hosbisau plant Tŷ Gobaith.
"Mae'n bwysig ein bod yn adeiladu ar y brwdfrydedd hwn drwy greu mwy o gyfleoedd cyflogaeth, datblygu sgiliau a chefnogi twf y sector gwerthfawr hwn.
"Er bod fy nghydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau'n credu y dylid parhau i roi mwy o bwyslais ar annog plant ac oedolion fel ei gilydd i gymryd rhan mewn chwaraeon corfforol, ni allwn fforddio cael ein gadael ar ôl mewn diwydiant sy'n tyfu mor gyflym."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS