Last Friday, Janet Finch-Saunders MS/AS visited Darling Buds in Benllech, a fantastic local business showcasing a beautiful selection of flowers.
Darling Buds sources from local growers wherever possible and takes pride in eco-friendly practices, ensuring their stunning displays are created responsibly.
Janet Commented:
“I want to give a big thank you to Sharon at Darling Buds for welcoming me during my visit on Friday. It was fantastic to see firsthand her dedication, creativity, and hard work, and the flower arrangements on display were absolutely beautiful.
Supporting local shops like this is more important than ever. By choosing to buy locally from businesses like Sharon’s, we help keep our high streets vibrant, create jobs, and strengthen the heart of our communities. I’m proud to champion businesses like this and encourage everyone to continue supporting them whenever they can.”
Ddydd Gwener diwethaf, ymwelodd Janet Finch-Saunders AS â Darling Buds ym Menllech, busnes lleol gwych sy'n arddangos pob math o flodau hyfryd.
Mae Darling Buds yn prynu gan dyfwyr lleol lle bynnag y bo modd, ac mae'n ymfalchïo mewn arferion ecogyfeillgar, gan sicrhau bod eu harddangosiadau trawiadol yn cael eu creu mewn ffordd gyfrifol.
Meddai Janet:
"Hoffwn ddiolch o galon i Sharon yn Darling Buds am y croeso cynnes a gefais yn ystod fy ymweliad ddydd Gwener. Roedd hi’n wych gweld ei hymroddiad, ei chreadigrwydd a'i gwaith caled, ac roedd y trefniadau blodau a oedd yn cael eu harddangos yn brydferth dros ben.
Mae cefnogi siopau lleol fel hyn yn bwysicach nag erioed. Trwy ddewis prynu'n lleol gan fusnesau fel un Sharon, rydyn ni’n helpu i gadw ein strydoedd mawr yn fywiog, creu swyddi a chryfhau calon ein cymunedau. Rwy'n falch o hyrwyddo busnesau fel hyn ac rwy’n annog pawb i barhau i'w cefnogi pryd bynnag y gallan nhw."