
Partly is a wonderful new arts and crafts shop on Lloyd Street, showcasing the work of independent British artists. From the adorable Gully and Chips knitted dolls to beautifully scented candles, Partly brings high-quality, handcrafted items to our vibrant high street.
Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, recently visited the shop and was impressed by the variety of products on offer.
Commenting on her visit, Janet said:
“I would like to congratulate Harvey and Jo on the opening of Partly here in Llandudno, and thank them for such a warm welcome.
“I thoroughly enjoyed browsing the wonderful selection, especially the vegan scented candles. These products not only celebrate traditional craftsmanship but also strengthen our community’s unique identity and entrepreneurial spirit.
“Partly is already gaining a reputation for its beautiful range of handcrafted gifts, jewellery, and artwork, as well as its helpful and welcoming team.
“For anyone who loves handmade crafts or is looking for the perfect gift, I highly recommend a visit to Partly.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Mae Partly yn siop gelf a chrefft newydd wych ar Lloyd Street, sy'n ffenestr siop i waith artistiaid annibynnol o Brydain. O ddoliau wedi’u gwau Gully a Chips i ganhwyllau persawrus a hardd, mae Partly yn dod ag eitemau o ansawdd uchel sydd wedi'u gwneud â llaw i'n stryd fawr fywiog.
Bu Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn ymweld â'r siop yn ddiweddar ac roedd yr amrywiaeth o gynnyrch a gynigir wedi creu argraff arni.
Ar ôl ei hymweliad, dywedodd Janet:
"Hoffwn longyfarch Harvey a Jo ar agor Partly yma yn Llandudno, a diolch iddyn nhw am groeso mor gynnes.
"Fe wnes i fwynhau cael bwrw golwg drwy'r dewis gwych o gynhyrchion, yn enwedig y canhwyllau persawrus figan. Mae'r siop nid yn unig yn dathlu crefftwaith traddodiadol ond hefyd yn cryfhau hunaniaeth unigryw ac ysbryd entrepreneuraidd ein cymuned.
"Mae Partly eisoes yn ennill enw da am ei ystod hardd o anrhegion wedi’u gwneud â llaw, gemwaith a gwaith celf, yn ogystal â'r tîm croesawgar sydd mor barod i helpu.
"I unrhyw un sydd wrth eu bodd gyda chrefftau wedi'u gwneud â llaw neu sy'n chwilio am yr anrheg berffaith, rwy'n argymell Partly yn fawr."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS