Following a horrific knife attack which saw Jake Pickstock slashed at the neck and fighting for his life at a club in Llandudno, he has worked with Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, to set up #OperationPickstock so to raise awareness of knife crime amongst the younger generation, night time economy, and throughout the local community.
Jake and Janet have worked with several stakeholders to establish a campaign to try and save lives and discourage people from taking knives on nights out across North Wales.
The campaign is seeing:
- Pubs and clubs across Llandudno displaying #OperationPickstock posters
- Llew Jones and Arriva Buses Wales displaying the #OperationPickstock posters on their buses
- Conwy County Borough Council (CCBC) arranging for posters to be placed in taxis
- Transport for Wales committing to display posters at railway stations
- CCBC and Llandudno Pub Watch working together to provide training for pub staff
- North Wales Police providing free metal detector wands
- North Wales Police arranging an amnesty bin
- Janet Finch-Saunders MS and Llandudno Pub Watch leading a social media campaign so to boost awareness of #OperationPickstock
Commenting on why he wanted to set up a campaign, Jake said:
“Lifelong damage in 40 Seconds. Now that's a scary thought. Unfortunately, I can’t change what has happened, but what we can change is turning the attack into a positive for North Wales and the fight against knife crime nationwide.
“My life is focused on achievable goals. Preventing an attack like this in the future certainly is achievable.
“With Janet’s help we have set up #OperationPickstock to raise awareness of knife crime amongst the younger generation, night time economy and throughout the local community to highlight the damage knife crime can have on multiple lives.
“Lives not knives should be the priority.”
Speaking about the experience of establishing #OperationPickstock with Jake, Janet said:
“There were almost 50,000 knife-enabled crimes recorded by the police in England and Wales to the year ending June 2022. Each one of those incidents will have affected countless people, from the victim to public services.
“I would like to praise Jake for the courage he has shown in being willing to use his horrific experience for the greater good.
“We have been able to pull organisations and businesses together to set up a new knife crime awareness campaign. I am proud that we have secured support for #OperationPickstock from Llandudno Pub Watch, North Wales Police, Conwy County Borough Council, Llew Jones, Arriva Buses Wales, Transport for Wales, and several businesses in Llandudno.
“Jake is a survivor, but his life was on the line. So to ensure that everyone has a good night out this festive season I am proud that we as a community have measures in place to discourage knife crime.”
ENDS
Yn dilyn ymosodiad cyllell erchyll a welodd Jake Pickstock yn cael ei drywanu yn ei wddf ac yn brwydro am ei fywyd mewn clwb yn Llandudno, mae wedi gweithio gyda Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, i sefydlu #OperationPickstock i godi ymwybyddiaeth o droseddau yn ymwneud â chyllyll ymhlith y genhedlaeth iau, yr economi min nos, a ledled y gymuned leol.
Mae Jake a Janet wedi gweithio gyda nifer o randdeiliaid i sefydlu ymgyrch i geisio achub bywydau ac annog pobl i beidio â chario cyllyll ar nosweithiau allan ar draws y Gogledd.
Mae'r ymgyrch yn gweld:
- Tafarndai a chlybiau ledled Llandudno yn arddangos poster #OperationPickstock
- Llew Jones a Bysiau Arriva Cymru yn arddangos y poster #OperationPickstock ar eu bysiau
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) yn trefnu bod posteri'n cael eu gosod mewn tacsis sy'n gweithredu yn Llandudno
- Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i arddangos y poster #OperationPickstock mewn gorsafoedd rheilffordd yn y Gogledd
- CBSC a Llandudno Pub Watch yn darparu hyfforddiant i staff tafarndai
- Heddlu Gogledd Cymru yn darparu ffyn datgelu metel am ddim
- Heddlu Gogledd Cymru yn trefnu i osod bin amnest yng Ngorsaf Reilffordd Llandudno
- Janet Finch-Saunders AS a Llandudno Pub Watch yn arwain yr ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol er mwyn hybu ymwybyddiaeth o #OperationPickstock
Wrth sôn pam ei fod eisiau sefydlu ymgyrch, dywedodd Jake:
"Difrod gydol oes mewn 40 eiliad. Nawr mae hynny'n beth dychrynllyd. Yn anffodus, alla i ddim newid yr hyn sydd wedi digwydd, ond yr hyn y gallwn ni ei newid yw troi'r ymosodiad yn un positif i Ogledd Cymru a'r frwydr yn erbyn troseddau cyllyll ledled y wlad.
"Mae fy mywyd yn canolbwyntio ar dargedau cyraeddadwy. Mae atal ymosodiad fel hyn yn y dyfodol yn sicr yn gyraeddadwy.
" Gyda chymorth Janet Finch-Saunders AS, maen nhw wedi sefydlu #OperationPickstock er mwyn codi ymwybyddiaeth o droseddau cyllyll ymysg y genhedlaeth iau, economi’r nos, a thrwy'r gymuned leol i dynnu sylw at y difrod y gall troseddau cyllyll ei gael ar fywydau di-ri.
"Bywydau nid cyllyll ddylai fod yn flaenoriaeth."
Wrth siarad am y profiad o sefydlu #OperationPickstock gyda Jake, dywedodd Janet:
"Cafodd bron i 50,000 o droseddau cyllyll eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr am y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2022. Bydd pob un o'r digwyddiadau hynny wedi effeithio ar bobl ddi-ri, o'r dioddefwr i wasanaethau cyhoeddus.
"Hoffwn ganmol Jake am y dewrder a ddangosodd wrth fod yn barod i ddefnyddio'i brofiad erchyll er budd i eraill.
"Rydyn ni wedi gallu dod â sefydliadau a busnesau at ei gilydd i sefydlu ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth o droseddau cyllyll. Rwy'n falch ein bod wedi sicrhau cefnogaeth i #OperationPickstock gan Llandudno Pub Watch, Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Llew Jones, Bysiau Arriva Cymru, Trafnidiaeth Cymru, a sawl busnes yn Llandudno.
"Mae Jake yn oroeswr, ond roedd ei fywyd yn y fantol. Felly er mwyn sicrhau bod pawb yn cael noson allan dda dros y gwyliau rwy'n falch bod gennym ni fel cymuned fesurau ar waith i annog pobl i beidio â throseddu gyda chyllyll."
Diwedd