Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Uwchraddio Pont Dolgarrog

  • Tweet
Thursday, 5 August, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Bydd llwybr cerdded poblogaidd yn Nolgarrog yn ailagor gyda chyfleusterau newydd, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ddydd Iau.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi bod yn gweithio gyda Dŵr Cymru i ddatblygu cynlluniau i ailagor pont bibell Dolgarrog. Mae'r bont bibell wedi bod ar gau i gerddwyr a defnyddwyr lleol oherwydd pryderon diogelwch sylweddol, gan gynnwys cyflwr dirywiol y deciau pren a'r angen am fesurau ychwanegol i ddiogelu'r prif gyflenwad dŵr i dros 9,000 o gartrefi yng Ngogledd Cymru.  

Mae angen buddsoddiad sylweddol ar y bont bibell hon - na fu erioed yn llwybr troed dynodedig nac yn hawl tramwy cyhoeddus - i'w gwneud yn ddefnyddiadwy ac yn ddiogel i ddefnyddwyr lleol.

Bydd cyllid Llywodraeth Cymru o £735k yn ariannu cyfraniad y Cyngor at adnewyddu'r bont ac yn galluogi gwaith uwchraddio sylweddol. Yn lle'r llwybr cerdded cul blaenorol rhwng y pibellau, bydd defnyddwyr yn elwa o lwybr cerdded a beicio a rennir ar ddeciau uwchben y pibellau. Bydd hyn yn galluogi mynediad haws i orsaf reilffordd Dolgarrog ac atyniadau yn yr ardal.

Dywedodd Janet Finch-Saunders AS, Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy: 

“Mae’r penderfyniad i gau Bont Dolgarrog dros dro wedi uno ein cymuned wrth werthfawrogi pwysigrwydd hanfodol y bont. Ers mis Chwefror eleni, rwyf wedi bod yn falch o ddod ag amryw fudd-ddeiliaid ynghyd i ganfod ffordd gadarnhaol ymlaen i gymuned Dolgarrog a theithwyr ein rheilffordd leol.  Mae ymrwymiad cyllid heddiw yn foment bwysig iawn a fydd yn helpu i gefnogi ein hymgyrch i wella llwybrau teithio llesol. Rwy’n edrych mlaen nawr at weithio gyda’r tîm darparu i sicrhau bod unrhyw newidiadau’n ystyriol o’r amgylchedd cyfagos.”

Dwedodd Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyda cyfrifoldeb dros Trafnidiaeth, Lee Waters:

“Mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn gwneud mwy o deithiau lleol ar droed neu ar feic, sydd o fudd i ein hiechyd a’r amgylchedd. Ond yn aml mae rhwystrau i wneud hi'n hawdd, neu dydy’r llwybrau sy’n bodoli ddim yn ddymunol i'w defnyddio. Rydyn ni wedi neilltuo swm sylweddol i helpu i greu llwybrau diogel a deniadol i annog pobl i deithio'n fwy egnïol. Rydw i wrth fy modd ein bod yn buddsoddi mewn uwchraddio pont Dolgarrog i'w hagor i fwy o bobl. "

Meddai’r Cynghorydd Greg Robbins, Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Chludiant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: 

“Rydym yn falch iawn o dderbyn cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfraniad y Cyngor at adnewyddu'r bont. Mae'n swm sylweddol, sy'n golygu y bydd y bont yn cael ei huwchraddio i'w gwneud hi'n llawer haws i gerddwyr a beicwyr. Dyma ganlyniad rhagorol sy’n deillio o weithio mewn partneriaeth gadarnhaol gyda phawb sy'n gysylltiedig.”

Meddai Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Dŵr yn Dŵr Cymru: 

“Er nad yw’r bont bibell yn hawl tramwy dynodedig, rydym yn ymwybodol ei bod yn boblogaidd iawn gyda cherddwyr a thrigolion lleol sydd am gael mynediad i’r orsaf reilffordd ar droed. Rydyn ni wrth ein bodd â'r newyddion hyn, a fydd, ynghyd â'n buddsoddiad, yn caniatáu i ni ailagor y bont ar gyfer y gymuned leol.”

Disgwylir i'r gwaith ddechrau yng ngwanwyn 2022 unwaith y bydd lefelau afonydd y gaeaf wedi gostwng. Yna gobeithio y bydd y bont ar ei newydd-wedd ar agor i'r cyhoedd yn ystod hydref 2022.

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree