Following the emergency closure of the A55 Conwy tunnel on 20 October, the Welsh Government has been challenged over what strategy is in place to reduce the risk of serious disruption on the A55 when such incidents occur.
Traffic was queuing back to Penmaenmawr in eastbound lanes of the A55. In westbound lanes, traffic went back to Colwyn Bay, and Llandudno Junction, Conwy town, Glan Conwy, Llanrwst, Betws-y-Coed, and Bethesda were gridlocked due to traffic leaving the A55.
Responding to Janet Finch-Saunders MS, Ken Skates MS, Cabinet Secretary for Transport and North Wales, Welsh Government, stated:
“There is a long-standing established diversion route for when the Conwy Tunnel is closed. It utilises the A470 and A5 trunk road network. The diversion plan is shared with the Local Resilience Forum which includes the relevant Local Authorities. However, drivers with local knowledge will use local roads and drivers will also use their SatNavs”.
Commenting, Janet said:
“Whenever any section of the A55 is closed between Llandudno Junction and Bangor there is a major impact on the long-standing diversion route.
“The same communities time after time encounter the same traffic mayhem, such as HGVs being unable to pass through Llanrwst, the arches of Conwy town, or the parked vehicles in Bethesda.
“What the Cabinet Secretary calls an established route is extremely poorly managed. How much worse can you get than members of the community having to volunteer to guide traffic because the traffic and police officers with the legal authority to manage traffic in crisis communities do not take action?
“Nobody, including the Cabinet Secretary, wants to take ultimate responsibility for management of the diversion route. Failure to do so and ensure that officials with legal authority help manage traffic flows could result in a serious accident”.
END
Ar ôl i dwnnel Conwy ar yr A55 orfod cau ar frys ar 20 Hydref, mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei herio ynglŷn â pha strategaeth sydd ar waith i leihau'r risg o darfu difrifol ar yr A55 pan fydd digwyddiadau o'r fath yn codi.
Roedd traffig yn ciwio'n ôl i Benmaenmawr ar lonydd dwyreiniol yr A55. Ar lonydd tua'r gorllewin, roedd y traffig yn ymestyn yn ôl mor bell â Bae Colwyn, ac roedd tagfeydd yng Nghyffordd Llandudno, tref Conwy, Glan Conwy, Llanrwst, Betws-y-coed, a Bethesda oherwydd traffig yn gadael yr A55.
Wrth ymateb i Janet Finch-Saunders AS, dywedodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru:
“Mae llwybr dargyfeirio hirdymor wedi’i sefydlu ar gyfer adegau pan fydd Twnnel Conwy ar gau. Mae'n defnyddio rhwydwaith cefnffyrdd yr A470 a'r A5. Mae’r cynllun dargyfeirio yn cael ei rannu gyda'r Fforwm Gwydnwch Lleol sy'n cynnwys yr Awdurdodau Lleol perthnasol. Fodd bynnag, bydd gyrwyr sydd â gwybodaeth leol yn defnyddio ffyrdd lleol a bydd gyrwyr hefyd yn defnyddio eu teclynnau SatNav”.
Mewn ymateb, dywedodd Janet:
“Pan fo unrhyw ran o'r A55 ar gau rhwng Cyffordd Llandudno a Bangor, mae'n cael effaith sylweddol ar y llwybr dargyfeirio hirdymor.
“Dro ar ôl tro, mae'r un cymunedau yn wynebu'r un anhrefn o ran traffig, fel lorïau nwyddau trwm yn methu pasio trwy strydoedd culion Lanrwst, bwâu tref Conwy, neu'r holl gerbydau sydd wedi'u parcio ar ochr y stryd ym Methesda.
“Mae'r hyn y mae'r Ysgrifennydd y Cabinet yn ei alw'n llwybr sefydledig yn cael ei reoli'n wael iawn. Mae aelodau'r gymuned yn gorfod gwirfoddoli i lywio'r traffig, am nad yw'r swyddogion traffig na'r heddlu sydd â'r awdurdod cyfreithiol i reoli traffig mewn cymunedau dan argyfwng yn gwneud hynny. Mae hynny’n brawf o ba mor wael yw pethau.
“Does neb, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet, eisiau cymryd cyfrifoldeb terfynol am reoli'r llwybr dargyfeirio. Gallai methu â gwneud hynny na sicrhau bod swyddogion ag awdurdod cyfreithiol yn helpu i reoli llif traffig arwain at ddamwain ddifrifol”.
DIWEDD