Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Tourism Bill Under Scrutiny / Craffu ar y Bil Twristiaeth

  • Tweet
Wednesday, 14 January, 2026
  • Local News
J

The Welsh Government has introduced a new Bill that would significantly expand its role in regulating tourism and visitor accommodation in Wales.

 

The Bill, introduced by Mark Drakeford MS, Cabinet Secretary for Finance and the Welsh Language, has been referred by the Business Committee to the Economy, Trade and Rural Affairs Committee for scrutiny.

 

A central element of the Bill is the introduction of a licensing regime for visitor accommodation. While intended to reassure visitors, the proposals would impose new regulatory requirements on accommodation providers, including self-catering businesses.

 

The Bill would also create a public directory of visitor accommodation in Wales, expanding on the existing national register.

 

Janet Finch-Saunders, Welsh Conservative Senedd Member for Aberconwy and Lead Senedd Candidate for Bangor, Conwy and Môn, said:

“Tourism is a vital industry in Aberconwy and I am really proud of the standard of accommodation we have here.

 

The tourism sector is the backbone of the Welsh economy, but too often during the Welsh Labour Government, backed by Plaid Cymru, businesses have been let down.

 

I have been receiving regular emails from hospitality businesses, pleading for help with rising business rates and outgoings on energy, food, drink and rising wages.

 

The Welsh Government must do more to protect our tourism and hospitality sectors by supporting businesses, not working against them. The last thing the hospitality sector need is more regulation, what it needs is further financial support and targeted funding to help businesses survive and grow.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Bil newydd a fyddai'n ehangu'n sylweddol ei rôl wrth reoleiddio twristiaeth a llety i ymwelwyr yng Nghymru.

 

Mae'r Bil, a gyflwynwyd gan Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, wedi cael ei gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar gyfer craffu arno.

 

Elfen ganolog o'r Bil yw cyflwyno cyfundrefn drwyddedu ar gyfer llety ymwelwyr. Er eu bod wedi'u bwriadu i dawelu meddyliau ymwelwyr, byddai'r cynigion yn gosod gofynion rheoleiddio newydd ar ddarparwyr llety, gan gynnwys busnesau hunanarlwyo.

 

Byddai'r Bil hefyd yn creu cyfeiriadur cyhoeddus o lety ymwelwyr yng Nghymru, gan ehangu'r gofrestr genedlaethol bresennol.

 

Meddai Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd y Ceidwadwyr Cymreig dros Aberconwy ac Ymgeisydd Arweiniol y Senedd ar gyfer Bangor, Conwy a Môn:

"Mae twristiaeth yn ddiwydiant hanfodol yn Aberconwy ac rwy'n falch iawn o safon ein llety yma yng Nghymru.

 

Y sector twristiaeth yw asgwrn cefn economi Cymru, ond yn rhy aml o lawer yn ystod Llywodraeth Llafur Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, mae busnesau wedi cael eu methu.

 

Rydw i wedi bod yn derbyn negeseuon e-bost rheolaidd gan fusnesau lletygarwch, yn erfyn am help gydag ardrethi busnes cynyddol a’r arian sy’n mynd ar ynni, bwyd, diod a chyflogau sy’n codi.

 

Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i amddiffyn ein sectorau twristiaeth a lletygarwch drwy gefnogi busnesau, nid gweithio yn eu herbyn. Y peth olaf sydd ei angen ar y sector lletygarwch yw mwy o reoleiddio - yr hyn sydd ei angen yw cymorth ariannol pellach a chyllid wedi'i dargedu i helpu busnesau i oroesi a thyfu."

 

You may also be interested in

Janet

C.C.B.C Declares a Health Emergency!

Friday, 23 January, 2026
Yesterday, Conwy County Borough Council elected members joined Denbighshire County Council in declaring a health emergency.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree