Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Swyddfa Janet Finch-Saunders AS yn derbyn hyfforddiant achub bywyd

  • Tweet
Thursday, 19 August, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Swyddfa Janet Finch AS, sydd wedi’i lleoli ar 29 Stryd Madog yn Llandudno, wedi cyhoeddi eu bod wedi cwblhau cwrs hyfforddiant CPR a diffibrilwyr a ddarparwyd gan Ambiwlans Sant Ioan. Gweithdrefn cymorth cyntaf frys yw CPR lle mae rhywun yn gwthio i fyny ac i lawr ar frest rhywun sy’n anymwybodol. Mae diffibriliwr yn ddyfais sy’n rhoi sioc drydan gref i galon rhywun sydd wedi cael ataliad y galon ac fel arfer maent wedi’u lleoli mewn gweithleoedd ac mewn mannau cyhoeddus fel bod unrhyw un yn gallu eu defnyddio.

Yn rhoi sylwadau ar yr hyfforddiant, dywedodd Janet:

“Gall unrhyw un ddioddef ataliad y galon, ar unrhyw adeg. Mae’r hyfforddiant hwn, a roddwyd i’m staff yn Stryd Madog gan Ambiwlans Sant Ioan, yn sicrhau bod gennym ni wybodaeth lawn a thrylwyr am weithdrefnau achub bywyd yng nghalon Llandudno.

“Bob blwyddyn yng Nghymru, bydd dros 6,000 o bobl yn cael ataliad y galon sydyn yn y gymuned a dyna pam y dylen ni wella ein gwybodaeth am y gweithdrefnau hyn. Mae hyn yn hynod wir wrth archwilio data sy’n awgrymu, ledled rhanbarth Betsi Cadwaladr, nad yw oddeutu 75% o bobl sy’n dioddef ataliad y galon yn derbyn CPR cyn i gymorth meddygol gyrraedd.

“Fodd bynnag, rwy’n awyddus i bwysleisio bod peiriannau diffibriliwr yn syml ac yn hawdd i’w defnyddio a does dim angen unrhyw hyfforddiant i helpu i achub bywyd. Mae cyfarwyddiadau clir ar sut i osod padiau’r diffibriliwr, gyda’r peiriant yn gwneud y gwaith i asesu curiad y galon. Ni fydd yn dweud wrthych chi am roi sioc os nad oes angen un.”

Daw’r hyfforddiant wedi’i ddiweddaru ar ôl i Janet gefnogi ymgyrch gan y fenter "Cadw Curiad" Awyr Las  sy’n annog trigolion i ymarfer CPR yn niogelwch eu cartrefi eu hunain, drwy ddefnyddio eitemau cyffredin ar yr aelwyd fel peli, clustogau a thedis.

Wrth annog trigolion i ymarfer, dywedodd Janet:

“Rydym ni’n gwybod bod pob eiliad yn cyfrif pam fydd rhywun yn cael ataliad y galon. Trwy ymarfer ein dull CPR yn rheolaidd gydag arth neu bêl, bydd yn golygu y gall pawb gael yr hyder i gynorthwyo’r rhai mewn angen. Wedi’r cwbl, mewn sefyllfa fel hon, mae unrhyw CPR yn well na dim CPR.”

DIWEDD

Ffoto: Staff y swyddfa yn hyfforddi gyda Geoff o Ambiwlans Sant Ioan

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree