Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Straen ar Busnes Cymru yn arwain at ddryswch a rhwystredigaeth

  • Tweet
Tuesday, 10 November, 2020
  • Local News

Heddiw (10 Tachwedd), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i roi diweddariadau rheolaidd ar sut mae Busnes Cymru yn ymdopi â’i gyfrifoldebau am gynllun grant y Coronafeirws, yn sgil cwynion gan etholwyr am gyngor dryslyd ac amseroedd aros hirach wrth ddefnyddio’r llinell gymorth.

Gan roi sylwadau ar y mater hwn, yn dilyn ei chyfraniad  yn y Senedd heddiw, dywedodd Janet:

“Rwy’n bryderus iawn am y pwysau y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar Busnes Cymru. Mae’r straen ar y sefydliad hwn yn arwain at gamgymeriadau na ellir eu hosgoi, gan arwain at ddryswch mawr a rhwystredigaeth yn ystod cyfnod o heriau enfawr eisoes i’n busnesau.

“Dyw hwn ddim yn fater newydd, chwaith. Y mis diwethaf, yn sgil sesiwn y Pwyllgor Craffu ar y Prif Weinidog, crybwyllais y ffaith nad oedd gwefan Busnes Cymru wastad yn darparu gwybodaeth gywir e.e. doedd y testun i’r cyhoedd ddim yn cael ei ddiweddaru law yn llaw â chyhoeddiad cyhoeddus.

“Ond tra bod y Prif Weinidog yn croesawu’r adborth, mae angen mawr o hyd am welliannau. Yn wir, mae gen i etholwyr sydd wedi clywed bod gofyn iddyn nhw ddarparu gwybodaeth ychwanegol i Busnes Cymru ond sydd heb gael cyfarwyddyd ar sut i’w darparu. Mae hyn yn peri gofid mawr o ystyried ein bod wedi’n hysbysu y bydd grantiau’n cael eu darparu ar sail y cyntaf i’r felin.  

“Mae eraill yn cwyno am amseroedd aros hir dros ben wrth ffonio’r llinell gyngor, gydag un aelod o’m tîm i wedi gorfod aros am awr a deg munud cyn colli cysylltiad am 5pm. Mae’n gyfnod pan na all llawer o’m busnesau lleol fforddio gwastraffu’r fath amser ar y ffôn.

“O ystyried y cyfrifoldeb mawr ar ysgwyddau’r asiantaeth hon ar hyn o bryd, rwy’n credu’n gryf y gall y tîm fod wedi eu llethu dan y pwysau. Felly credaf y dylai Senedd Cymru gael diweddariadau rheolaidd ar sut mae’r sefydliad yn rheoli’r cyfrifoldeb cymorth busnes enfawr hwn.

DIWEDD

Ffoto: Michael Longmire ar Unsplash

You may also be interested in

J

MS praise for the Church in Wales School Ysgol Bodafon

Thursday, 29 January, 2026
Ysgol Bodafon Church in Wales School has been praised for being a warm, inclusive and nurturing community where pupils feel safe, happy and respected. Recent inspection findings recognise the strong relationship between staff and pupils, with teachers and support staff knowing learners well and

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree