A Freedom of Information Request has disclosed that the Conwy County Borough Council staff occupancy figures for Bodlondeb and Coed Pella between Monday 17 October 2022 and Friday 21 October 2022 reached a peak of less than 40%, with an average weekly occupancy of 33%.
Out of 958 possible occupancies across the two sites, the highest peak number of staff was Tuesday 18 October. On this day, 363 members of staff were working within the offices, the equivalent of 38%.
For the new Coed Pella building which costs £1.45 million a year in rent alone, the peak occupancy is 36.25% out of a possible 720 staff, with a maximum of 261 members of staff present in the building on Tuesday 18 October.
Commenting on the lack of use of the Local Authority’s flagship buildings, Janet said:
Covid regulations have long finished, and as such there is no legal requirement to work from home.
Last July I implored the new Cabinet of Conwy County Borough Council to consider reviewing their hybrid working system, and get the staff and Councillors back into the buildings.
When considering the serious impact the properties, especially Coed Pella, have on tax payers money, it is unacceptable that the Local Authority, post-Covid, has not made full use of the facilities.
Should the pattern of low occupancy continue, I urge the Cabinet to consider allowing private businesses to use some of the office space so that some income can possibly be had from what is turning out to be a bad investment.
ENDS
Mae Cais Rhyddid Gwybodaeth wedi datgelu bod ffigurau lefelau defnydd swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer Bodlondeb a Choed Pella rhwng dydd Llun 17 Hydref 2022 a dydd Gwener 21 Hydref 2022 wedi cyrraedd uchafbwynt o lai na 40%, gyda chyfartaledd wythnosol o 33%.
O'r 958 o leoedd posibl i staff ar draws y ddau safle, cafwyd y nifer uchaf o staff ddydd Mawrth 18 Hydref. Ar y diwrnod hwnnw, roedd 363 aelod o staff yn gweithio yn y swyddfeydd, sy'n cyfateb i lefel defnydd o 38%.
O ran adeilad newydd Coed Pella sy'n costio £1.45 miliwn y flwyddyn mewn rhent yn unig, y lefel defnydd uchaf yw 36.25% o’r 720 o staff posibl, gydag uchafswm o 261 aelod o staff yn bresennol yn yr adeilad ddydd Mawrth 18 Hydref.
Wrth sôn am y diffyg defnydd o brif adeiladau'r Awdurdod Lleol, dywedodd Janet:
Mae rheoliadau Covid wedi hen orffen, ac oherwydd hynny does dim gofyniad cyfreithiol i weithio gartref.
Fis Gorffennaf diwethaf, fe wnes i erfyn ar Gabinet newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ystyried adolygu eu system gweithio hybrid, a chael y staff a'r Cynghorwyr yn ôl i'r adeiladau.
Wrth ystyried yr effaith ddifrifol y mae'r eiddo, yn enwedig Coed Pella, yn ei chael ar arian trethdalwyr, mae'n annerbyniol nad yw'r Awdurdod Lleol, ar ôl Covid, wedi gwneud defnydd llawn o'r cyfleusterau.
Pe bai’r patrwm defnydd isel yn parhau, rwy'n annog y Cabinet i ystyried caniatáu i fusnesau preifat ddefnyddio rhywfaint o'r gofod swyddfa fel y gellir cael rhywfaint o incwm o bosib o'r hyn sy'n argoeli i fod yn fuddsoddiad gwael.
DIWEDD