Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Siom gyda ‘chur pen ariannol’ Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth i’r Prif Weithredwr gael ei secondio i Loegr

  • Tweet
Thursday, 9 July, 2020
  • Local News

Heddiw (9 Mehefin), siaradodd Janet Finch-Saunders AS – Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – am ei siom gyda’r newyddion y bydd Gary Doherty, cyn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cael ei dalu o leiaf £188,000, wrth iddo weithio ar secondiad yn Lloegr.

Dyma’r diweddaraf mewn llu o ymrwymiadau cyllid drud i gyn aelodau staff neu staff sy’n gadael. Yn 2015, mynegwyd pryder gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd ynghylch y newyddion y byddai’r Bwrdd yn cyllido secondiad blwyddyn o hyd i Loegr i Trevor Purt, y cyn Brif Weithredwr.

Wrth siarad am y sefyllfa, dywedodd Janet:

“Dyma benderfyniad ariannol amheus arall gan y rhai sy’n rhedeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae ein staff rheng flaen rhagorol yn haeddu gwell gan yr uwch dîm arweinyddiaeth lle mae gormod o lawer o reolwyr.

“Gyda chleifion yn aros wythnosau am lawdriniaethau angenrheidiol, dyw hi ddim yn iawn fod pobl y Gogledd yn gweld eu trethi’n cael eu gwastraffu ar secondiadau drud o Loegr gan staff sy’n gadael y Bwrdd. Mae hwn yn gur pen ariannol a does dim arwydd ei fod yn dod i ben.

“Dylai rheolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr geisio arloesi yn hytrach nag ailadrodd camgymeriadau costus y gorffennol. Mae’n amlwg nad yw arweiniad Vaughan Gething AS a Llywodraeth Llafur Cymru wedi gwneud yr un iot i helpu’r Bwrdd i symud allan o fesurau arbennig.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i gyhoeddi map cyfeiriad clir a chynhwysol i achub Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, o fewn mis o gymryd yr awenau. Bydd hyn yn adfer hyder y cyhoedd yn y Bwrdd, ac yn rhoi sylw eto i’r meddygon a’r nyrsys.”

DIWEDD

Llun: Luis Melendez

You may also be interested in

J

MS Calls for Residents’ Voices to Be Heard Over Proposed Wind Turbine Sites

Friday, 17 July, 2026
Janet Finch-Saunders MS has written to the Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy, Adam Price MS, calling for the concerns of local residents to be fully considered following proposals to construct wind turbines on Mynydd Tryfan. The proposed development has generated signific

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Bangor Conwy Môn

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree