Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Sicrhau ymrwymiad pawb yn sesiwn gyntaf Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd

  • Tweet
Thursday, 15 July, 2021
  • Senedd News

Heddiw, mae AS Aberconwy a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd – Janet Finch-Saunders AS – wedi defnyddio cyfarfod cyntaf Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (CCEI) y chweched Senedd i gael ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru y bydd yn cyflwyno cynllun dychwelyd ernes.

Daw'r ymrwymiad diweddaraf hwn ar ôl i Janet sicrhau dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru erbyn yr hydref, gyda Llywodraeth Cymru yn cydweithio â phartneriaid y DU i sicrhau cynllun mor gydlynus â phosib. Hefyd, gofynnodd Janet am eglurder ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â defnyddio Bil y DU i ddeddfu ar yr Amgylchedd, er gwaethaf ymrwymiadau blaenorol i gyflwyno eu Bil Amgylchedd Cymru eu hunain yn ystod tymor y Senedd hon. 

Wrth sôn am y cyfarfod, dywedodd Janet: 

“Roeddwn yn falch iawn o fynychu ein cyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor CCEI, gan fy mod wedi edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr ag aelodau gwybodus eraill i ganolbwyntio ar y polisïau hynny sy'n mynd i'r afael â’r pwnc llosg sy’n diffinio ein hoes - argyfyngau natur a'r hinsawdd.

“Roedd hwn yn gyfarfod pwysig i graffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru, o ran Bil Amgylchedd y DU. Er bod y sesiwn hon wedi cyflwyno tipyn o eglurder strategol o ran cyflwyno polisi'r dyfodol, rwyf hefyd yn falch ein bod wedi gallu datrys ymrwymiadau pellach ar sut i fynd i'r afael â phla ein byd modern - gwastraff plastig.

“Fis Tachwedd diwethaf, roeddwn yn hynod falch o gyflwyno cynnig deddfwriaethol ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff yng Nghymru. Ar ôl cael addewid eisoes i gyflwyno mesurau yn yr hydref, roedd hi'n braf defnyddio cyfarfod heddiw i sicrhau y bydd y cynnig yn fesur cynhwysfawr.

“Wrth sgwrsio gyda chynhyrchwyr diodydd, cefais wybod bod y sector yn parhau i gefnogi'r syniad o gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes sydd wedi'i gynllunio'n dda ac nad yw'n peri dryswch i'r defnyddwyr. Bydd ymrwymo i gyflwyno cynllun cynhwysfawr ('all-in') yn helpu i warantu lefelau ymgysylltu uwch. Rwan, byddaf yn ceisio sicrhau bod pawb yn cadw'r addewid hwn fel bod y polisi'n parhau i gyd-fynd â'r uchelgais."

DIWEDD 

Llun: gan tanvi sharma ar Unsplash

You may also be interested in

J

More Frustration at Britannia Bridge Delays

Friday, 7 November, 2025
The recent written statement from the Welsh Government outlines the recommendations from the North Wales Transport Commission regarding the ongoing issues on Britannia Bridge. The Welsh Government has committed to advance further work and assessments for wind deflectors, and also to introduce a

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree