Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Sicrhau ymrwymiad i drafod cael goleuadau traffig ar yr A470 Pont Fawr

  • Tweet
Sunday, 18 July, 2021
  • Local News

Yn dilyn ymgyrch hirsefydlog yr Aelod, yn deisebu Llywodraeth Cymru i gynnal astudiaeth ddichonoldeb i gael ateb amgen a reolir gan oleuadau ar yr A470 ym Mhont Fawr yn Llanrwst, mae Janet Finch-Saunders AS wedi croesawu ymrwymiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y bydd y mater yn cael sylw yng ngweithdy cam 1 WelTAG.

Mae’r gymuned wedi wynebu problemau traffig ar y Bont Fawr sy’n dyddio’n ôl i’r 17eg Ganrif yn Llanrwst ers blynyddoedd. Daw’r ymrwymiad newydd yn sgil llythyr gan yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy. Hefyd, cyflwynodd Janet Gwestiwn Ysgrifenedig ynghylch y pryder. Bydd y trafodaethau y cyfeirir atynt yn cael eu cynnal yn gynnar yn 2022/23.

Yn rhoi sylwadau ar yr ymateb, dywedodd Janet:

“Mae pawb yn gwybod am y trafferthion traffig ar y brif ffordd dros yr Afon Conwy yn Llanrwst. Ar adegau, mae waliau hanesyddol y bont wedi’u taro, mae tagfeydd yn digwydd yn aml wrth geg y bont ac mae defnyddwyr y ffordd yn peryglu eu diogelwch wrth i gerbydau geisio bacio i bob cyfeiriad.

“Fydd hi byth yn sefyllfa ddelfrydol i gael ffordd mor bwysig yn mynd dros bont un lôn ac mae’n rhaid i rywun ymyrryd cyn i rywun gael anaf difrifol. Dyna pam ei bod yn hollbwysig ein bod wedi sicrhau ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd y sefyllfa’n cael sylw yn ystod gweithdy cam 1 WelTAG.

“Ar ôl mynegi pryderon am y gyffordd gyda Phont Fawr; y gyffordd yn Nhal y Cafn; gallt Bodnant; a’r rhan yn ardal Rhyd y Creuau, rwyf wedi fy argyhoeddi bod angen gweithredu mewn sawl man.

“Pan fydd y Senedd yn ailafael yn ei gwaith llawn yn ôl gwyliau’r haf, ac mewn cwestiynau wrth y Dirprwy Weinidog wrth symud ymlaen, byddaf yn ceisio sicrhau bod y mater hwn yn parhau ar frig y rhestr ar gyfer trafodaethau cam 1 WelTAG. Mae’n rhaid i ni ddal yr ymrwymiad hwn i gyfrif os ydym am weld newid.”

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion: 

  • Mae copi o lythyr y Dirprwy Weinidog wedi’i amgáu.

Ffoto: Pont Fawr 

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree