
Cymru Versus Arthritis NHS waiting times update highlighted the significant failings of Betsi Cadwaladr University Health Board’s Trauma and Orthopaedics pathways.
The Health Board has 16,928 cases waiting to start T&O treatment, as well as having 5,067 cases on the treatment waiting list for longer than a year and 482 cases waiting longer than two years for treatment.
Janet Finch-Saunders, the Member of Welsh Parliament for Aberconwy, was disappointed but not surprised by these figures.
Commenting on the Cymru Versus Arthritis update figures, Janet said:
“I have consistently raised significant concerns about the length of waiting times for treatments at the Health Board.
“These figures are shocking, especially the 1,642 cases, that had completed their wait, not just because they were treated, but because they no longer wanted to be seen or are deceased.
“This figure is up 2% from the previous month. It is completely unacceptable and urgent action needs to be taken to reduce these waiting lists.
“However, there is now hope because the major changes I campaigned for at Llandudno Hospital are set to see a £30m orthopaedic centre, which should help reduce waiting times. The sooner that is up and running, the better for all”.
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Tynnodd diweddariad gan Versus Arthritis ar amseroedd aros GIG Cymru sylw at fethiannau syfrdanol llwybrau Trawma ac Orthopedeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae gan y Bwrdd Iechyd 16,928 o achosion yn aros i ddechrau triniaeth Trawma ac Orthopedeg, yn ogystal â 5067 o achosion ar y rhestr aros am fwy na blwyddyn a 482 o achosion yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth.
Roedd Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn siomedig ond heb ei synnu gan y ffigurau hyn.
Wrth sôn am ffigurau diweddariad Cymru Versus Arthritis, dywedodd Janet:
"Rydw i wedi rhannu pryderon mawr yn gyson am hyd yr amseroedd aros am driniaethau yn y Bwrdd Iechyd.
"Mae'r ffigurau hyn yn sioc, yn enwedig y 1,642 o achosion, a oedd wedi cwblhau eu cyfnod aros, nid yn unig oherwydd eu bod wedi cael eu trin, ond oherwydd nad oedden nhw bellach eisiau cael eu gweld neu eu bod wedi marw.
"Mae'r ffigur hwn i fyny 2% ar y mis blaenorol. Mae'n gwbl annerbyniol ac mae angen cymryd camau ar frys i leihau'r rhestrau aros hyn.
"Fodd bynnag, mae yna lygedyn o obaith nawr oherwydd bod y newidiadau mawr roeddwn i wedi ymgyrchu drostyn nhw yn Ysbyty Llandudno yn mynd i weld canolfan orthopedeg gwerth £30m yn agor, a ddylai helpu i leihau amseroedd aros. Gorau po gyntaf y bydd yn agor ei drysau”.
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS