Ar ôl mynychu cyfarfod bord gron i randdeiliaid lleol ar y problemau sy’n codi yn Llyn Geirionydd a Llyn Crafnant, ynghylch y draul ar y llwybrau i’r mannau harddwch a’r effaith negyddol y mae’r broblem draffig hon yn ei chael ar dirfeddianwyr lleol, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi croesawu’r ymrwymiad i sefydlu grŵp gorchwyl er mwyn dod o hyd i ateb yn yr hirdymor.
Mynychwyd y cyfarfod, a drefnwyd gan y Cynghorydd Sir Tomos Jones, gan gynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Janet:
“Mae’n hawdd gweld pam fo Llyn Geirionydd a Llyn Crafnant yn parhau i ddenu cymaint o ymwelwyr. Maen nhw’n eithriadol o hardd ac maent yn cynnig porth hygyrch i nifer o chwaraeon dŵr actif a chyfleoedd pysgota. Ond trist yw gweld bod y llynnoedd hyn, a’r llwybrau un trac sy’n arwain atynt, yn denu llawer mwy o dwristiaid nag y gall y gymuned ymdopi â nhw.
“Mae pawb am weld ymwelwyr yn parhau i fwynhau llonyddwch ac amwynder y llynnoedd trawiadol hyn, ond mae’n rhaid cymryd camau i sicrhau bod gweithgareddau ar y safle yn ystyriol ac yn gyfrifol. Mae hyn yn golygu mynd i’r afael â’r parcio anghyfreithlon, sy’n rhwystro mynediad i’n cerbydau gwasanaethau brys, a rhoi diwedd ar gam-drin tirfeddianwyr wrth iddynt herio ymddygiad annerbyniol.
“Dyma pam fy mod yn croesawu’n fawr y cam cadarnhaol ymlaen heddiw, gyda chyfarfod buddiol rhwng y sefydliadau dan gadeiryddiaeth y Cynghorydd Tomos Jones. Rwy’n falch bod hyn wedi arwain at gytundeb i bennu grŵp gorchwyl sy’n edrych ar y dyfodol er mwyn gallu dod o hyd i atebion cynaliadwy a hirdymor i’r problemau a’u treialu.”
DIWEDD