Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Rhowch ddiwedd at wasanaeth bysiau amhriodol drwy gynllun cymorth cyllid hirdymor

  • Tweet
Friday, 17 July, 2020
  • Local News

Heddiw (17 Gorffennaf), galwodd Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i ddarparu cymorth hirdymor i weithredwyr bysiau’r genedl.

Mae’r pandemig COVID-19 wedi arwain at ostyngiad mewn niferoedd teithwyr o tua 90%. Gyda mesuriadau cadw pellter cymdeithasol bellach yn cyfyngu ar nifer y teithwyr a all deithio ar gerbyd, mae llawer o weithredwyr wedi gweld gostyngiad digynsail mewn refeniw ac yn wynebu problemau i dalu costau gwasanaethau.

Wrth roi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:

“Bysiau yw'r drafnidiaeth gyhoeddus a ddefnyddir amlaf yng Nghymru ac mae angen i nifer o breswylwyr Aberconwy eu defnyddio bob diwrnod. Maen nhw wedi cefnogi ein gweithwyr allweddol gydol y pandemig hwn a byddant yn ganolog i adferiad ein cenedl dros y misoedd sydd i ddod.

“Yn fy sgyrsiau gyda swyddogion yn y diwydiant, mae llawer wedi trafod cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU, ac wedi dweud eu bod wedi eu hachub ac wedi cadw eu haelodau staff mewn gwaith. Fodd bynnag, maen nhw wedi digalonni gydag ymateb araf gweinyddiaeth Mark Drakeford sydd, yn eu barn nhw, yn rhoi llwybrau dielw mewn perygl.

“Tra bod y cyhoeddiad diweddar am Gynllun Argyfwng Bysiau yn gam i’r cyfeiriad cywir, ymddengys bod y cymorth tymor byr hwn yn methu cydnabod y bydd rheolau cadw pellter cymdeithasol yn amlwg yn effeithio ar refeniw yn y dyfodol agos.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i wneud unrhyw doriadau pellach i wasanaethau drwy amlinellu cynllun cymorth cyllid hirdymor i gynorthwyo gweithredwyr. Allwn ni ddim gadael i bobl y Gogledd deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a’u hynysu drwy ddal ati i ddarparu hanner gwasanaeth fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

“Gallai diffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru arwain at breswylwyr yn mynd yn ôl at ddefnyddio cerbydau preifat ar gyfer eu teithiau cymudo dyddiol, a fyddai’n drychinebus i’r amgylchedd ar adeg pan fo’r tymheredd uchaf erioed newydd ei gyhoeddi yng ngogledd cylch yr Arctig.”

DIWEDD

Ffotograff: Chuttersnap/UnSplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree