Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Rhaid mynd i'r afael â phryderon hygyrchedd llwybrau troed drwy wybodaeth a chynnal a chadw

  • Tweet
Monday, 19 July, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae'r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi sôn am yr angen i awdurdodau ddarparu mwy o wybodaeth am hygyrchedd llwybrau troed lleol fel modd o ddarparu 'cyfle cyfartal' wrth gael mynediad i fannau yn y rhanbarth sy'n boblogaidd ymhlith twristiaid. Mae wedi tanlinellu'r angen i waith cynnal a chadw barhau i fod yn flaenoriaeth hefyd. 

Daw wrth i Anabledd Cymru ddweud bod rhai lleoliadau'n cael eu hystyried yn ardaloedd anhygyrch  i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a phobl â phroblemau symudedd. Mae Janet wedi ymgyrchu ers tro byd am glirio tywod oddi ar Lwybr Arfordir Cymru rhwng Deganwy a Llandudno i gynyddu hygyrchedd. Yn gynharach y mis hwn, ysgrifennodd at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd i leisio pryderon ynghylch cynnal a chadw llwybrau troed o amgylch Trwyn y Fuwch.  

Wrth sôn am yr angen am newid, dywedodd Janet: 

“Wrth i ni edrych ymlaen at adferiad gwyrdd o bandemig y Coronafeirws, dylai hyrwyddo ein llwybrau troed fod yn ganolog, yn enwedig os ydym am gryfhau ein perthynas â natur. Dyna pam mae sylwadau Anabledd Cymru am hygyrchedd yn destun cymaint o bryder. 

“Er bod gwasanaethau'n cael eu hadleoli i swyddi eraill drwy gydol y pandemig, roedd fy llythyr at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ei gwneud yn glir y dylid gwneud gwaith cynnal a chadw yn awr i wella mynediad i gyrchfannau canolog i dwristiaid, fel Trwyn y Fuwch. Dylid rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am hygyrchedd i fannau o'r fath hefyd ar dudalen amlwg ar wefan yr awdurdod. 

“Yn yr un modd, mae Llwybr Arfordir Cymru yn drysor cenedlaethol gwirioneddol, ac rydym yn ffodus iawn bod cymunedau ar hyd glannau Aberconwy yn elwa o'i ddefnydd. Ond mae'n rhaid cynnal a chadw'r llwybr rhwng Deganwy a Llandudno yn well, gan nad yw pobl mewn cadeiriau olwyn yn gallu defnyddio'r llwybr mwyach. 

“Mae hyn yn gofyn am arweiniad o'r brig, gyda swyddogion yn newid eu presenoldeb digidol i gyhoeddi gwell gwybodaeth am hygyrchedd. Dylid rhoi awgrymiadau ar gyfer llwybrau amgen hefyd er mwyn cynnal tegwch o ran cyfleoedd.

“Rwy'n gwerthfawrogi na ellir cynnal a chadw ein holl lwybrau a'u gwneud yn hygyrch dros nos. Wrth weithio i gyflawni'r nod hwnnw, credaf y dylai CNC osod esiampl drwy greu map manwl o'r llwybr sy'n dangos pa rannau sy'n hygyrch neu beidio ar eu gwefan Llwybr Arfordir Cymru.”

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Mae copi o lythyr llwybrau troed Janet ynghlwm. 
  • Mae llwybr troed Arfordir Cymru, a lansiwyd yn 2012, yn 870 milltir (1,400 km) o hyd ac fe'i cyhoeddwyd fel y llwybr arfordir pwrpasol cyntaf yn y byd i gwmpasu arfordir gwlad yn ei gyfanrwydd.

Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree