Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

“Rhaid Dod â Thywod yn ôl i Draeth y Gogledd”

  • Tweet
Friday, 4 June, 2021
  • Local News

Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd Aberconwy, wrth ei bodd â phenderfyniad Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Economi a Lle, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, i gefnogi opsiwn amddiffyn yr arfordir ar gyfer Traeth y Gogledd yn Llandudno. Fel rhan o’r opsiwn hwn, bydd tywod yn disodli cerrig chwarel rhwng Cornel y Plant a Stryd Vaughan, ac mae’n bosibl y bydd grwynau pren yn rheoli’r tywod.

Bu bron iawn i’r opsiwn hwn gael ei ddewis yn unfrydol, a dim ond y Cynghorydd Pat Hebron, Llafur Cymru, a oedd yn gwrthwynebu.

Meddai Janet ar ôl y cyfarfod:

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn ymgyrchu i sicrhau bod tywod yn dod yn ôl i Draeth y Gogledd. Mae cynifer ohonom wedi bod yn gweithio i sicrhau hyn ers blynyddoedd.

“Bydd llawer o bobl yn cofio am y cyfarfod cyhoeddus yn Venue Cymru a ddenodd tua 850 o drigolion. Roedd yn amlwg ar y pryd, ac mae’n amlwg heddiw, bod rhaid dod â thywod yn ôl i Draeth y Gogledd.

“Llandudno yw Brenhines cyrchfannau Cymru, ond bu’r broses o ollwng cerrig chwarel ar ein traeth yn ergyd i’w henw da.

“Dyma’r amser perffaith i ni barhau i gydweithio fel cymuned er mwyn adfer y traeth a sicrhau ei fod yn ddiogel i bawb. Mae pawb yn gwybod bod llawer o unigolion wedi brifo eu hunain wrth geisio cerdded dros y cerrig i gyrraedd ymyl y dŵr, a bod eraill wedi penderfynu cadw draw o’r môr oherwydd bygythiad y rhwystr annaturiol hwn.

“Mae ein tref ni yn gyrchfan allweddol i Gymru gyfan, felly rwy’n erfyn ar y Cabinet a’r Cyngor llawn i ddewis opsiwn dau, a byddaf yn parhau i herio Llywodraeth Cymru ar y mater hwn os yw’n dewis peidio â chefnogi’r penderfyniad pwysig hwn gan yr awdurdod lleol”.

DIWEDD

  • Opsiwn 2: Mae dewis amgen (tywod) wedi’i nodi hefyd ar gyfer cynnal amddiffynfeydd yr arfordir ar Draeth y Gogledd, Llandudno. Fel rhan o’r opsiwn hwn, bydd tywod yn disodli’r cerrig rhwng Cornel y Plant a Stryd Vaughan, wedi’i reoli â grwynau pren o bosibl. Ar Draeth y Gorllewin, byddai angen cynnal a chadw’r traeth yn rheolaidd ac atgyweirio’r amddiffynfeydd presennol yn unol â pholisi cynllun rheoli’r traethlin. Y gymhareb cost a budd ar gyfer yr opsiwn hwn fyddai 2.06, ac amcangyfrif y gost gyfalaf yw £23,962m.

You may also be interested in

Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Wednesday, 28 January, 2026
Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree