Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, is encouraging residents struggling with mental health to use the ICAN Community Hub, Llandudno Railway Station.
Residents can call into the Hub between 1pm and 4pm every Thursday to talk in confidence to an ICAN Connectors about mental health and wellbeing.
The Hub is a partnership between Creating Enterprise and Conwy Mind. Everyone is welcome. More information about the service is available by calling 01492 879907 and emailing [email protected]
Commenting on access to mental health support, Janet said:
“So severe are the concerns about access to support for individuals suffering with mental health conditions in Aberconwy, that I have established a stakeholder group.
“With representatives including officials from Conwy Mind, Conwy County Borough Council, North Wales Police, Betsi Cadwaladr University Health Board, and Cartrefi Conwy participating in meetings, we have been covering numerous problems relating to mental health support, and I have been using the levers at my disposal to scrutinise the Welsh Government.
“So far, positive changes include confirmation that the health board is re-launching the North Wales Concordat Group under new support and leadership. It will have the key role of improving the multi-agency support for people in crisis and ensuring that the National Mental Health Conveyance pilot is fully utilised in North Wales.
“I have also secured a commitment from Lynne Neagle MS, Deputy Minister for Mental Health and Wellbeing, Welsh Government, that her officials will facilitate a meeting between the Police Liaison Unit in Welsh Government and the Health Board to better understand the concerns in relation to the Health Board’s role as part of the multi-agency response to crisis.
“Whilst I am pleased to be working with stakeholders to try and improve access to mental health support, in the meantime, I encourage residents suffering with mental health to visit the ICAN Community Hub in Llandudno Railway Station where they can access a supportive confidential session”.
ENDS
Note:
Document: ICAN Community Hub poster
The National Mental Health Conveyance pilot aims to provides an alternative to a police vehicle or an ambulance for the conveyance of people with mental health issues.
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS at the official opening of the Hub with Andrew Bowden and Lesley Griffiths MS/AS.
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn annog preswylwyr sy’n cael anawsterau iechyd meddwl i ddefnyddio’r Hwb Cymunedol FEDRA'I yng Ngorsaf Drenau Llandudno.
Gall preswylwyr alw heibio’r Hwb rhwng 1pm a 4pm bob prynhawn Iau i siarad yn gyfrinachol gyda Chysylltwyr FEDRA'I am faterion iechyd meddwl a lles meddyliol.
Mae’r Hwb yn bartneriaeth rhwng Creating Enterprise a Mind Conwy. Mae croeso i bawb. Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth ar gael drwy ffonio 01492 879907 ac e-bostio [email protected]
Gan roi ei sylwadau ar sut i gael mynediad at gymorth iechyd meddwl, dywedodd Janet:
“Mae’r pryderon am gael gafael ar gymorth i unigolion sy’n dioddef cyflyrau iechyd meddwl yn Aberconwy mor ddifrifol fel fy mod i wedi sefydlu grŵp rhanddeiliaid.
“Gyda chynrychiolwyr yn cynnwys swyddogion o Mind Conwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Heddlu Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Cartrefi Conwy yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd, rydym ni wedi bod yn rhoi sylw i broblemau niferus yn ymwneud â chymorth iechyd meddwl ac rydw i wedi bod yn defnyddio’r adnoddau sydd gen i i graffu ar Lywodraeth Cymru.
“Hyd yma, mae newidiadau cadarnhaol yn cynnwys cadarnhau bod y bwrdd iechyd yn ail-lansio Grŵp Concordat Gogledd Cymru dan gymorth ac arweinyddiaeth newydd. Bydd ganddo’r rôl allweddol o wella’r cymorth amlasiantaeth ar gyfer pobl mewn argyfwng a sicrhau bod y rhaglen beilot National Mental Health Conveyance yn cael ei defnyddio’n llawn yn y Gogledd.
“Rwyf hefyd wedi sicrhau ymrwymiad gan Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Llywodraeth Cymru, y bydd ei swyddogion yn hwyluso cyfarfod rhwng Uned Gyswllt yr Heddlu yn Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd i gael gwell dealltwriaeth o’r pryderon mewn perthynas â rôl y Bwrdd Iechyd fel rhan o’r ymateb aml-asiantaeth i argyfwng.
“Er fy mod yn falch o gael gweithio gyda rhanddeiliaid a cheisio gwella mynediad at gymorth iechyd meddwl, yn y cyfamser, rwy’n annog preswylwyr sy’n dioddef gyda’u hiechyd meddwl i ymweld â Hwb Cymunedol FEDRA’I yng Ngorsaf Drenau Llandudno lle gallan nhw fanteisio ar sesiwn gefnogol gyfrinachol.”
DIWEDD
Nodyn:
Dogfen: Poster Hwb Cymunedol FEDRA’I
Nod y rhaglen beilot National Mental Health Conveyance yw cynnig opsiwn arall yn hytrach na cherbyd yr heddlu neu ambiwlans i gludo pobl â phroblemau iechyd meddwl.
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS yn agoriad swyddogol yr Hwb gydag Andrew Bowden a Lesley Griffiths AS