At the eleventh hour, on the eleventh day, of the eleventh month we will remember them.
Today marks the day when an armistice was created in a prelude to peace negotiations to the end of the First World War and end the fighting. It began at 11am on the 11th November 1918.
Today on Armistice Day we will remember those who gave their lives for our country and honour the brave men and women who serve our country, defend our freedoms and keep up safe.
Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy commented:
“Armistice day gives us a moment to remember those who not only lost their lives for our freedoms in the Great War, but also to this day where our brave men and women are continuing to serve our King and country to keep us safe in uncertain times.
You would think as time went on that we would learn lessons from how devastating trench warfare was in the First World War and the grand scales of the lives that were lost were devastating, not only in our country but across the whole world.
We have seen in the war in Ukraine that this isn’t the case and we have once again seen horrific trench warfare on the ground in Europe which has caused so much loss of life and caused devastating impacts on the soldiers and civilians in Ukraine. We still stand by our Ukrainian allies through this incredibly tough time for their country and the safety of Europe.”
Ar yr unfed awr ar ddeg, ar yr unfed diwrnod ar ddeg, o’r unfed mis ar ddeg, fe’u cofiwn.
Mae heddiw yn nodi’r diwrnod pan grëwyd cadoediad cyn y trafodaethau heddwch i roi diwedd ar y Rhyfel Byd Cyntaf a’r ymladd. Dechreuodd am 11am ar 11 Tachwedd 1918.
Heddiw ar Ddiwrnod y Cadoediad, cofiwn y rhai a roddodd eu bywydau dros ein gwlad ac anrhydeddwn y dynion a’r menywod dewr sy’n gwasanaethu ein gwlad, yn amddiffyn ein rhyddid ac yn ein cadw’n ddiogel.
Meddai Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy:
“Mae diwrnod y cadoediad yn rhoi cyfle i ni gofio’r rhai a gollodd eu bywydau dros ein rhyddid yn y Rhyfel Mawr, ond hefyd y dynion a menywod dewr sy’n parhau i wasanaethu ein Brenin a’n gwlad i’n cadw’n ddiogel mewn amseroedd ansicr heddiw.
Byddech chi’n meddwl wrth i amser fynd rhagddo y byddem wedi dysgu gwersi o ystyried mor erchyll fu’r rhyfela mewn ffosydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r holl fywydau a gollwyd, nid yn unig o’n gwlad ni ond o bedwar ban byd.
Rydyn ni wedi gweld yn y rhyfel yn Wcráin nad felly y mae ac rydyn ni unwaith eto wedi gweld ymladd mewn ffosydd erchyll ar lawr gwlad yn Ewrop sydd wedi achosi cymaint o farwolaethau a chael effeithiau dinistriol ar y milwyr a’r sifiliaid yn Wcráin. Rydyn ni’n dal i sefyll gyda’n cynghreiriaid yn Wcráin trwy’r cyfnod andros o anodd hwn i’w gwlad a diogelwch Ewrop.”