Serious concerns have been raised following action by the regulator Ofwat, which has announced a proposed £44.7 million enforcement package against Dŵr Cymru Welsh Water after what it described as “serious and unacceptable” failures in how the company operated and maintained its sewage network.
The investigation found that Dŵr Cymru Welsh Water failed to properly operate, maintain and upgrade parts of its wastewater system, resulting in excessive sewage spills into the environment. The proposed enforcement package includes £40.6 million to reduce future spills and £4.1 million aimed at improving river quality. The regulator has confirmed that the costs will be met by the company rather than through higher bills for customers.
Janet Finch-Saunders, Senedd Member for Aberconwy said:
“These findings are extremely concerning and will frustrate many residents who expect our rivers, coastline and environment to be properly protected.
It is particularly shocking that while these failures were occurring, senior executives were receiving significant performance bonuses. For many people that raises serious questions about accountability and priorities within the company.
There are also understandable concerns about the background of the new chief executive at his time at Sydney Water and the reports of challenges within the company and the unions. If Dŵr Cymru Welsh Water wants to rebuild trust, it must demonstrate clear leadership, transparency and a genuine commitment to improving performance.
“With Wales experiencing far higher levels of sewage discharges than England, the continued inaction from both Dŵr Cymru and the Labour Welsh Government is compromising our waterways and failing communities who rightly expect better.”
Mae pryderon difrifol wedi’u codi yn dilyn camau gan y rheoleiddiwr Ofwat, sydd wedi cyhoeddi pecyn gorfodi arfaethedig gwerth £44.7 miliwn yn erbyn Dŵr Cymru ar ôl methiannau "difrifol ac annerbyniol" yn y ffordd y mae'r cwmni'n gweithredu ac yn cynnal ei rwydwaith carthffosiaeth.
Canfu'r ymchwiliad fod Dŵr Cymru wedi methu â gweithredu, cynnal ac uwchraddio rhannau o'i system dŵr gwastraff yn iawn, gan arwain at ollwng gormod o garthion i'r amgylchedd. Mae'r pecyn gorfodi arfaethedig yn cynnwys £40.6 miliwn i leihau gollyngiadau yn y dyfodol a £4.1 miliwn gyda'r nod o wella ansawdd afonydd. Mae'r rheoleiddiwr wedi cadarnhau y bydd y costau’n cael eu talu gan y cwmni yn hytrach na thrwy filiau uwch i gwsmeriaid.
Meddai Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy:
"Mae'r canfyddiadau hyn yn peri pryder mawr a byddant yn rhwystredig i lawer o drigolion sy'n disgwyl i'n hafonydd, ein harfordir a'n hamgylchedd gael eu diogelu'n briodol.
Ac mae’n syfrdanol bod uwch swyddogion gweithredol yn cael bonysau perfformiad sylweddol tra bod y methiannau hyn yn digwydd. I lawer o bobl, mae hynny'n codi cwestiynau difrifol am atebolrwydd a blaenoriaethau o fewn y cwmni.
Mae yna bryderon dealladwy hefyd am gefndir y prif weithredwr newydd yn ei gyfnod yn Sydney Water a'r adroddiadau am heriau o fewn y cwmni a'r undebau. Os yw Dŵr Cymru am feithrin ymddiriedaeth, rhaid iddo ddangos arweinyddiaeth glir, tryloywder ac ymrwymiad gwirioneddol i wella perfformiad.
"Gyda llawer mwy o garthion yn cael eu gollwng yng Nghymru nag yn Lloegr, mae'r diffyg gweithredu parhaus gan Dŵr Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru yn peryglu ein dyfrffyrdd ac yn siomi cymunedau sy'n disgwyl gwell."