Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is pleased to be hosting a public meeting in September regarding the proposal for houses near Derwen Lane.
There are currently plans to build 152 properties of mixed design near Derwen Lane. Given this, there will be a public meeting held at the Penrhyn Bay Presbyterian Church on the 11th of September at 18:00.
The meeting will be attended by guest speakers Mr Alex Wigfield, Land Director and Ms Maya Ward, Land Buyer, both representatives of Anwyl Construction, and Ms Hayley Knight, Director, HK Planning. Representatives from Conwy County Borough Council will also be present.
Please be aware you must book your seat beforehand, so please contact the office on 01492 871 198 or email [email protected] to confirm your space.
Commenting on the news, Janet said:
"I am pleased to share that, following the success of the Penrhyn Bay public meeting in March, I will be hosting another session. This meeting will provide an opportunity for residents to voice their concerns and for representatives to present and clarify the proposed plans."
“During the meeting, you have the opportunity to ask any questions that you may have, such as about the impact on the local environment, noise, or infrastructure.
“Ms Knight, from HK Planning, will also show a visual representation of the proposed development site and can offer clarity regarding the core design aspects of the project.
“If you are going to be affected by these plans, or want to hear more about what is being proposed then please come along to the Penrhyn Bay Presbyterian Church, Llandudno, LL30 3PP on the 11th of September at 18:00. Please remember to book!”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy yn falch o fod yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ym mis Medi ynglŷn â'r cynnig am dai ger Ffordd Derwen.
Ar hyn o bryd mae cynlluniau i adeiladu 152 eiddo o amrywiol ddyluniadau ger Ffordd Derwen. O ystyried hyn, bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Eglwys Bresbyteraidd Bae Penrhyn ar 11 Medi am 18:00.
Bydd y siaradwyr gwadd canlynol yn bresennol: Mr Alex Wigfield, Cyfarwyddwr Tir a Ms Maya Ward, Prynwr Tir, y ddau yn gynrychiolwyr o Anwyl Construction, a Ms Hayley Knight, Cyfarwyddwr, HK Planning. Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd yn bresennol.
Cofiwch fod yn rhaid i chi gadw’ch sedd ymlaen llaw, felly cysylltwch â'r swyddfa ar 01492 871 198 neu e-bostiwch [email protected] i gadarnhau’ch lle.
Wrth sôn am y newyddion, dywedodd Janet:
"Rwy'n falch o rannu, yn dilyn llwyddiant cyfarfod cyhoeddus Bae Penrhyn ym mis Mawrth, y byddaf yn cynnal sesiwn arall. Bydd y cyfarfod hwn yn gyfle i drigolion leisio’u pryderon ac i gynrychiolwyr gyflwyno ac egluro'r cynlluniau arfaethedig."
"Yn ystod y cyfarfod, cewch gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau a allai fod gennych chi, megis am yr effaith ar yr amgylchedd lleol, sŵn neu isadeiledd.
"Bydd Ms Knight, o HK Planning, hefyd yn dangos delweddau gweledol o'r safle datblygu arfaethedig a gall gynnig eglurder ynghylch agweddau dylunio craidd y prosiect.
"Rydw i hefyd wrth fy modd y bydd y Cynghorydd Chris Cater a'r Cynghorydd Carol Beard hefyd yn bresennol i drafod materion a phryderon cynllunio penodol.
"Os ydych chi'n mynd i gael eich effeithio gan y cynlluniau hyn, neu os hoffech glywed mwy am yr hyn sy'n cael ei gynnig, yna dewch draw i Eglwys Bresbyteraidd Bae Penrhyn, Llandudno, LL30 3PP ar 11 Medi am 18:00. Cofiwch gadw’ch lle! "
DIWEDD