Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has expressed disappointment that the Welsh Government's widely touted active travel policy has not successfully engaged the people of Wales as intended.
Following a report from Audit Wales it has been revealed that active travel rates have not improved in recent years and that better evidence is needed to track progress and assess value for money.
In 2023/24, the Welsh Government spent £72.6m on the scheme, £60.6m in 2022/23 and £70.3m in 2021/22, with a total expenditure by local authorities since 2018 of £218m. The scheme is the most expensive out of the devolved nations with a price this year per capita of £23.37.
Statistics from the National Survey for Wales reveal that in both 2021/22 and 2022/23, 6% of people cycled at least once a week, and 51% of people walked at least once a week for active travel purposes. The figure for walking compares with 60% in 2019-20 while cycling rates have remained broadly static since the scheme’s inception.
Commenting on the news Janet said:
“Back in July, I raised this exact concern: the Welsh Government is squandering significant amounts of money on its Active Travel schemes.
“Since 2018, the figure for people cycling at least once a month has fluctuated between 8% and 10%, showing absolutely no discernible upward trend, and in that time Welsh Government have managed to spend £218m.
“It is an utter shambles and a scandal. Yet another waste of the public purse on a pointless vanity project.
“The idea itself has merit, and I appreciate any plan that encourages people to be active and travel sustainably. However, like with all Welsh Government projects, they are poorly implemented and maintained.
“As the report highlights, the core issue stems from the project's failure to integrate effectively with broader policies and initiatives. Furthermore, the expansion of infrastructure has not been paired with a sufficiently impactful campaign to increase public awareness or promote the behavioural shifts needed for actual change.
“I will be bringing this up in the Senedd for discussion with the Welsh Government to try and understand what changes will be made to ensure that public money is being spent prudently. The amount of waste from the Government would almost be laughable if it wasn’t so infuriating.”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, wedi mynegi siom nad yw polisi teithio llesol Llywodraeth Cymru, a gafodd gryn gyhoeddusrwydd, wedi llwyddo i ennyn diddordeb pobl Cymru fel y bwriadwyd yn wreiddiol.
Datgelodd adroddiad gan Archwilio Cymru nad yw cyfraddau teithio llesol wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bod angen tystiolaeth well i olrhain cynnydd ac asesu gwerth am arian.
Yn 2023/24, gwariodd Llywodraeth Cymru £72.6m ar y cynllun, £60.6m yn 2022/23 a £70.3m yn 2021/22, gyda chyfanswm gwariant gan awdurdodau lleol ers 2018 yn £218m. Y cynllun hwn yw'r drytaf ymhlith y gwledydd datganoledig, sy'n costio £23.37 y pen eleni.
Yn ôl ystadegau Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2021/22 a 2022/23, roedd 6% o bobl yn beicio o leiaf unwaith yr wythnos, a 51% o bobl yn cerdded o leiaf unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol. Mae'r ffigwr ar gyfer cerdded yn cymharu â 60% yn 2019-20 tra bod cyfraddau beicio wedi aros yn weddol sefydlog ers sefydlu'r cynllun.
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Janet:
“Nôl ym mis Gorffennaf, fe wnes i godi'r union bryder hwn: mae Llywodraeth Cymru’n gwastraffu symiau sylweddol o arian ar ei chynlluniau Teithio Llesol.
“Ers 2018, mae'r ffigwr ar gyfer pobl sy'n beicio o leiaf unwaith y mis wedi amrywio rhwng 8% a 10%, gan ddangos unrhyw duedd weladwy i fyny o gwbl, ac yn y cyfnod hwnnw mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i wario £218m.
“Mae'n llanast llwyr ac yn sgandal. Enghraifft arall o wastraffu'r pwrs cyhoeddus ar brosiect rhodresgar dibwrpas.
“Mae'r syniad ei hun yn iawn, ac rwy'n gwerthfawrogi unrhyw gynllun sy'n annog pobl i fod yn egnïol a theithio'n gynaliadwy. Ond, fel gyda holl brosiectau Llywodraeth Cymru, maen nhw'n cael eu gweithredu a'u cynnal yn wael.
“Fel mae'r adroddiad yn nodi, gwraidd y broblem yw methiant y prosiect i integreiddio'n effeithiol â pholisïau a mentrau ehangach. At hynny, nid yw ehangu seilwaith wedi'i baru ag ymgyrch ddigon effeithiol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd na hyrwyddo'r newidiadau ymddygiadol sydd eu hangen ar gyfer newid gwirioneddol.
“Byddaf yn codi hyn yn y Senedd i'w drafod gyda Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio deall pa newidiadau fydd yn cael eu gwneud i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n ddoeth. Byddai holl wastraff y Llywodraeth bron yn chwerthinllyd pe na bai'n gwylltio rhywun gymaint."
DIWEDD