Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Pryder yr Eiriolwr dros Bobl Hŷn am gynlluniau adfer Llywodraeth Cymru

  • Tweet
Wednesday, 14 October, 2020
  • Local News

Heddiw (14 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS – Eiriolwr dros Bobl Hŷn y Ceidwadwyr Cymreig – wedi adleisio pryderon Age Cymru am absenoldeb cyfeiriadau at bobl hŷn yng nghynlluniau adfer o’r Coronafeirws Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei chynlluniau mewn adroddiad a luniwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, Ail-greu ar ôl COVID-19: yr heriau a’r blaenoriaethau. Fodd bynnag, mae Age Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol i fynegi ei syndod nad oedd pobl hŷn yn cael eu crybwyll o gwbl fwy neu lai yn eu cynlluniau i gael Cymru yn ôl ar ei thraed, yn ystod unrhyw gyfnod adfer.

Meddai Janet:

“Mae’n achos pryder mawr na chyfeirir at bobl hŷn yng nghynllun adfer Llywodraeth Cymru ar ôl y pandemig, sy’n dangos cyn lleied y mae Gweinidogion Cymru yn ei feddwl am y rhan bwysig hon o gymdeithas.

“Mae profiadau pobl hŷn yn ystod y pandemig hwn wedi cryfhau’r achos dros ddiogelu eu hawliau ymhellach yn y gyfraith, ynghyd â gwell gwybodaeth a chydnabyddiaeth o’r hawliau hyn. Dyna pam i mi gynnig Bil i gorffori hawliau pobl hŷn Cymru yn ein deddfwrfa yn gynt eleni.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru ymgysylltu ar unwaith â’r Comisiynydd Pobl Hŷn, Age Cymru a rhanddeiliaid eraill, i ailystyried eu blaenoriaethau a sicrhau nad yw anghenion pobl hŷn yn cael eu hanwybyddu.

“Gall pobl hŷn gyfrannu’n allweddol at ailadeiladu economi Cymru, felly mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru roi grym i’r preswylwyr hyn drwy ail-fagu eu hyder i ail-ymgysylltu a chyfranogi yn eu cymunedau.”

DIWEDD

Ffoto gan Siarhei Plashchynski ar Unsplash

You may also be interested in

Janet

Visiting Aberconwy Domestic Abuse Service

Monday, 23 March, 2026
On Friday, Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, visited the Aberconwy Domestic Abuse Service.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree