Yn dilyn gohebiaeth at Lywodraeth Cymru yn ystod yr haf ac ymyriad yn galw am ddatganiad yn y Senedd ddoe, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi croesawu gohirio’r Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus i Gyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55 a oedd i fod i ddechrau yn ystod y mis, hyd nes y cynhelir Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru.
Yn y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd heddiw, ymddiheurodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd am yr “anhwylustod a achoswyd yn sgil gohirio’r Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus ac am yr oedi wrth ddarparu’r hysbysiad hwn”. Bydd y penderfyniad Gweinidogol mewn perthynas ag argymhellion Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Yn croesawu’r eglurder, dywedodd Janet:
“A minnau wedi galw am ohirio’r ymchwiliad cyhoeddus lleol hwn, hyd nes y gall Llywodraeth Cymru egluro ei bwriadau mewn perthynas â’i pholisi ffyrdd, mae’n rhyddhad gen i fod y Dirprwy Weinidog wedi gweld synnwyr. Mae’r cyhoeddiad hwn yn fuddugoliaeth amlwg i drethdalwyr ac yn rhoi eglurder tymor byr i breswylwyr Dwygyfylchi, Penmaenmawr a Llanfairfechan.
“Mae’r ffaith y gallai swm sylweddol o arian cyhoeddus fod wedi’i wario ar ymgysylltu ymhellach â’r cyhoedd, dim ond i Adolygiad Ffyrdd Cymru ddod draw a rhoi diwedd ar y prosiect cyfan, yn pwysleisio’r llwybr hurt yr oedd y polisi hwn yn ei ddilyn.
“Dylai’r ffaith iddi gymryd ymyriad gen i i daflu goleuni ar hyn ddychryn pob preswylydd. Mae meddwl ei bod wedi cymryd dau fis i’r Dirprwy Weinidog weld y goleuni yn tanlinellu fy mhryderon ynghylch diffyg pragmatiaeth y weinyddiaeth hon. Edrychaf ymlaen at ganlyniad yr Adolygiad.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Amgaeaf gopi o Ddatganiad Ysgrifenedig y Dirprwy Weinidog.
Ffoto: Janet Finch-Saunders AS