Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Poeni am gau cronfa'n gynnar yn dilyn cyhoeddiad am y pecyn cymorth i fusnesau

  • Tweet
Wednesday, 30 June, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi tynnu sylw at rwystredigaeth barhaus busnesau lleol ynghylch meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer cymorth ariannol y Coronafeirws, wedi'r cyhoeddiad y bydd pecyn cymorth brys yn talu'r costau gweithredu ar gyfer Gorffennaf ac Awst 2021. 

Roedd datganiad Gweinidog yr Economi heddiw, a ryddhawyd i'r wasg unwaith eto cyn y drafodaeth yn y Senedd, yn amlinellu y bydd gan fusnesau cymwys hawl i daliad ychwanegol o rhwng £1,000 a £25,000, yn dibynnu ar eu maint, eu strwythur a'u hamgylchiadau. I fod yn gymwys, rhaid i fusnesau ddangos bod eu trosiant wedi gostwng mwy na 60% o gymharu â'r cyfnod cyfatebol yn 2019 neu gyfwerth.  

Wrth sôn am rwystredigaethau lleol, dywedodd Janet: 

“Wrth gwrs, mae unrhyw gefnogaeth i fusnesau Cymru yn rhywbeth i'w groesawu, ond gresyn bod rhaid i fusnesau ragweld yr incwm a gollir cyn misoedd yr haf unwaith eto gan fod y gronfa'n cau ym mis Gorffennaf. Roedd hyn yn rhwystr dryslyd i fynediad yn ystod y rownd ddiwethaf. 

“Mae'r bwriad i gau'r cynllun hwn ganol mis Gorffennaf yn golygu y bydd busnes lleol a allai ddioddef achos anffodus o Covid-19 yn cael ei orfodi i gau, heb gymorth ariannol o bosibl, gan eu bod wedi rhagweld heb unrhyw fai arnyn nhw, na fyddent yn profi 60% yn llai o drosiant yn ystod tymor yr haf.

“Fel mae datganiad y Gweinidog yn rhagweld, dyma fydd y pecyn terfynol o gymorth brys i'r busnesau hynny sy'n gallu masnachu – bydd busnesau angen gwybodaeth glir fel mater o frys i egluro a fydd cymorth ar gael iddyn nhw petaen nhw angen hynny mwya sydyn maes o law.

“Rhaid i'r cyhoeddiad heddiw am Gronfa Datblygu ac Adfer Busnesau yn y dyfodol hefyd geisio mynd i'r afael â phryder hirsefydlog hefyd sy'n atal llawer o fusnesau lletygarwch lleol rhag ailgychwyn eto – prinder staff. Gellir cyflawni hyn trwy dynnu sylw'n briodol at fanteision gyrfa yn y sector gwerth chweil hwn i'n pobl ifanc a cheiswyr gwaith."

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion: 

  • Bydd y gronfa'n agor i geisiadau ddydd Mawrth 13 Gorffennaf 2021 ac ar agor am bythefnos, cyn cau ddydd Gwener 23 Gorffennaf 2021. 
  • Gallwch weld datganiad y Gweinidog yma. 

You may also be interested in

J

Article on Dŵr Cymru Welsh Water Fines on Sewage Failings

Friday, 20 March, 2026
This week, it has been reported that yet again Dŵr Cymru has been fined £44.7 million by Ofwat for serious and unacceptable breaches in the company’s sewage and wastewater services, with Ofwat stating that Dŵr Cymru had failed to properly operate, maintain, and upgrade its wastewater network to ensu

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree