Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has launched a petition calling for the Welsh Government, Conwy County Borough Council, and Gwynedd Council to cooperate so to offer a package of financial support to save the T19 service operated by Llew Jones.
Llew Jones has given notice to terminate the T19 service which they currently operate between Llandudno and Blaenau Ffestiniog.
The operator has explained that termination is being pursued because the huge reduction in passengers since the COVID-19 pandemic, and no indications that the numbers will recover any further, has made the T19 increasingly financially unviable.
If no solution is found, the service will stop on 11 February 2023.
Commenting after launching the petition, Janet said:
“The Welsh Labour and Plaid Cymru Co-operation agreement makes a clear promise that they would ask Transport for Wales to work with local authorities in North West Wales and the Welsh Government to develop plans for an integrated transport system.
“Rather than see progress, we are seeing Labour and Plaid cooperation at both the Welsh Government and Conwy County Cabinet levels lead to a deterioration of public transport.
“So to help ascertain the level of public support for the bus service, I have launched a petition on my website, which I encourage as many as possible to sign.
“Whilst I will be reaching out to Llew Jones, they have already made clear that the service is simply not commercially viable in its current form.
“If the Welsh Government, Conwy and Gwynedd cabinets are truly committed to supporting rural communities and improving our public transport system I expect them to cooperate so to be able to offer a package of financial support to help Llew Jones.
“No action will have a detrimental impact on the environment, community connectivity, the local economy, and the poorest and most vulnerable in society.”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi lansio deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Gwynedd i gydweithredu er mwyn cynnig pecyn o gymorth ariannol i achub y gwasanaeth T19 a weithredir gan Llew Jones.
Mae Llew Jones wedi rhoi rhybudd y bydd yn terfynu’r gwasanaeth T19 y maen nhw'n ei weithredu rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog ar hyn o bryd.
Mae'r gweithredwr wedi esbonio ei fod am derfynu’r gwasanaeth yn sgil y gostyngiad enfawr yn nifer y teithwyr ers y pandemig COVID-19, a heb unrhyw arwydd y bydd y niferoedd yn codi eto, mae wedi gwneud y T19 yn gynyddol anymarferol yn ariannol.
Os na fydd ateb yn cael ei ganfod, bydd y gwasanaeth yn dod i ben ar 11 Chwefror 2023.
Wrth sôn am lansio'r ddeiseb, dywedodd Janet:
"Mae cytundeb Cydweithredu Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn rhoi addewid clir y byddan nhw'n gofyn i Trafnidiaeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol yn y Gogledd-orllewin a Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau ar gyfer system drafnidiaeth integredig.
"Yn hytrach na gweld cynnydd, rydyn ni’n gweld cydweithrediad Llafur a Plaid yn Llywodraeth Cymru a Chabinet Sir Conwy yn arwain at ddirywiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus.
"Felly, er mwyn helpu i ddeall lefel cefnogaeth y cyhoedd i'r gwasanaeth bysiau, rwyf wedi lansio deiseb ar fy ngwefan, ac rwy'n annog cynifer â phosib i'w llofnodi.
"Er y byddaf yn ceisio darbwyllo Llew Jones, maen nhw wedi egluro eisoes nad yw'r gwasanaeth yn fasnachol hyfyw yn ei ffurf bresennol.
"Os yw cabinetau Llywodraeth Cymru, Conwy a Gwynedd yn ymrwymo o ddifrif i gefnogi cymunedau gwledig a gwella ein system drafnidiaeth gyhoeddus, rwy’n disgwyl iddyn nhw gydweithredu er mwyn gallu cynnig pecyn o gymorth ariannol i helpu Llew Jones.
“Bydd peidio â gweithredu’n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd, cysylltedd cymunedol, yr economi leol, a'r tlotaf a'r mwyaf bregus yn ein cymdeithas."
DIWEDD