
Janet Finch-Saunders, Member for of the Welsh Parliament for Aberconwy is concerned about the lack of clarity in the Sustainable Farming Scheme (SFS) announcement.
The scheme is still being developed. It is not expected to be finalised until the autumn, despite it being expected to go live on 1st January 2026.
Farmers believe they won’t have time to plan for the changes.
The removal of stiles on footpaths could open up farms to the risk of damage from illegal scramble biking, causing additional issues to farmers on top of the worries SFS scheme is causing to farmers.
The Welsh Government have slashed the Basic Payment Scheme by 40% despite promising they would only cut it by 20% in the first year. This is worrying for farmers who are apprehensive about joining the scheme.
Commenting, Janet said:
“It is unacceptable that farmers in Aberconwy are continuing to face such uncertainty.
“Despite the Welsh Labour Government promising this scheme would benefit our farmers, they have been left having to rush through potentially lifechanging alterations.
“The 40% reduction in the BPS payment is outrageous, as is the fact that over 42,000 acres of farmland, the equivalent of the quarter of Ynys Môn, will be planted with trees by 2028.
“To expect farmers to be moving over to the new scheme as early as January 2026 when details are still missing just highlights how out of touch the Welsh Labour Government is with the reality of family farms. I will continue to call for a scheme that champions active farmers in Wales”.
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn poeni am y diffyg eglurder yng nghyhoeddiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Mae'r cynllun yn dal i gael ei ddatblygu. Does dim disgwyl iddo gael ei gwblhau tan yr hydref, er bod disgwyl iddo fynd yn fyw ar 1 Ionawr 2026.
Mae ffermwyr yn credu na fydd ganddyn nhw amser i gynllunio ar gyfer y newidiadau.
Gallai cael gwared ar gamfeydd ar lwybrau roi ffermydd mewn risg o ddifrod yn sgil beicio sgramblo anghyfreithlon, gan achosi problemau ychwanegol i ffermwyr ar ben y pryderon y mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy eisoes yn ei achosi i ffermwyr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi torri Cynllun y Taliad Sylfaenol o 40% er gwaethaf rhoi addewid y byddent ond yn ei dorri 20% yn y flwyddyn gyntaf. Mae hyn destun pryder i ffermwyr sy'n poeni am ymuno â'r cynllun.
Dywedodd Janet:
"Mae'n annerbyniol bod ffermwyr yn Aberconwy yn parhau i wynebu’r fath ansicrwydd.
"Er bod Llywodraeth Llafur Cymru wedi addo y byddai'r cynllun hwn o fudd i'n ffermwyr, maen nhw wedi cael eu gadael yn gorfod rhuthro trwy newidiadau a allai newid bywydau.
"Mae'r gostyngiad o 40% yng Nghynllun y Taliad Sylfaenol yn warthus, yn ogystal â'r ffaith y bydd dros 42,000 erw o dir fferm, sy'n cyfateb i chwarter Ynys Môn, yn cael eu plannu â choed erbyn 2028.
"Mae disgwyl i ffermwyr symud ymlaen i'r cynllun newydd mor gynnar â mis Ionawr 2026 ond mae’r ffaith bod yna fanylion ar goll yn dangos pa mor allan o gysylltiad yw Llywodraeth Llafur Cymru â realiti ffermydd teuluol. Byddaf yn parhau i alw am gynllun sy'n hyrwyddo ffermwyr gweithgar Cymru".
DIWEDD