The new North Wales Eye Specialist Centre’s Eye Unit was officially opened last Friday. North Wales Eye Specialists provide exceptional eye care services in the North Wales region. This new satellite Eye Unit in Bangor is a brilliant addition to their existing centre in Abergele.
Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, was delighted to attend the opening and honoured to cut the ribbon.
Commenting on the opening of the new Eye Unit, Janet said:
“Firstly, I would like to thank Divya Mathews and everyone at the North Wales Eye Specialist Centre who helped to make this opening such a wonderful event. It was a fantastic opportunity to celebrate the hard work and dedication of eye care specialists in our region.
“This new unit will provide pre- and post-operative care, and will receive referrals from local opticians. Eye health is vitally important, as without proper care and attention, people are at risk of sight deterioration.
“North Wales Eye Specialists have gone from strength to strength since opening their centre in Abergele in 2022, and I wish them all the best for this new centre, which will continue to provide highly rated specialist eye care treatment.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Agorwyd Uned Llygaid newydd North Wales Eye Specialist Centre yn swyddogol ddydd Gwener diwethaf. Mae’r ganolfan yn darparu gwasanaethau gofal llygaid eithriadol yn rhanbarth y Gogledd, ac mae'r Uned Llygaid newydd hon ym Mangor yn ychwanegiad gwych at y ganolfan bresennol yn Abergele.
Roedd Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn falch iawn o fynychu'r agoriad ac roedd yn anrhydedd iddi dorri'r rhuban.
Wrth sôn am agor yr Uned Llygaid newydd, dywedodd Janet:
"Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Divya Mathews a phawb yn North Wales Eye Specialist Centre a helpodd i wneud yr agoriad hwn yn ddigwyddiad mor lwyddiannus. Roedd yn gyfle gwych i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad arbenigwyr gofal llygaid yn ein rhanbarth.
"Bydd yr uned newydd hon yn darparu gofal cyn ac ar ôl llawdriniaeth, a bydd cleifion yn cael eu hatgyfeirio gan optegwyr lleol. Mae iechyd llygaid yn hollbwysig, oherwydd heb ofal a sylw priodol, mae golwg pobl mewn perygl o ddirywio.
"Mae North Wales Eye Specialist Centre wedi mynd o nerth i nerth ers agor y ganolfan yn Abergele yn 2022, ac rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw ar gyfer y ganolfan newydd hon, a fydd yn parhau i ddarparu triniaeth gofal llygaid arbenigol o’r radd flaenaf."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS