Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Oedi cyn cyflwyno 111 GIG y Gogledd yn ‘warthus’

  • Tweet
Tuesday, 27 October, 2020
  • Local News

Heddiw (27 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi siarad am ei siom o glywed y newyddion na fydd gwasanaeth ffôn 111 y GIG ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys yn cael ei gyflwyno’n llawn yn y Gogledd hyd 2022.

Er y dylid deialu 999 bob tro os oes achos brys, bwriadwyd i wasanaeth cyngor 111 y GIG fod ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gan ddarparu gwybodaeth a chyngor iechyd a mynediad at ofal sylfaenol brys y tu allan i oriau arferol.

Meddai Janet:

“Rydw i wedi derbyn nifer o gwynion gan etholwyr dryslyd sydd wedi’u cyfeirio at wasanaeth 111 y GIG i ganfod nad yw’r gwasanaeth meddygol ar gyfer achosion nad ydyn nhw’n rhai brys ar gael o hyd yn y Gogledd.

“Mae clywed nawr am oedi i gyflwyno’r gwasanaeth yn genedlaethol, yn warthus i fod yn blwmp ac yn blaen. Mae hyn yn siomedig dros ben, yn enwedig o ystyried bod preswylwyr eisoes wedi’u hysbysu y byddai’r gwasanaeth yn cael ei gyflwyno yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn 2021.

“Mae’n warthus hefyd fod y rhif cyngor mewn achosion nad ydyn nhw’n rhai brys yn dal i godi tâl ar breswylwyr y Gogledd. Mae’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi camreoli Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn golygu y bydd y preswylwyr hŷn a bregus hynny, heb fynediad cyson at gyfrifiadur, yn gorfod talu i ddefnyddio llinell gymorth iechyd hollbwysig i gael y cyngor sydd ei angen arnyn nhw.

“Mae llinell gymorth 111 y GIG yn wasanaeth ffôn hollbwysig y mae llawer o fy mhreswylwyr mwyaf bregus gwir ei angen. Rwy’n erfyn ar Weinidog Iechyd Cymru i edrych eto ar y cynlluniau hyn i sicrhau y gellir ei roi ar waith o fewn yr amserlen wreiddiol.”

DIWEDD

Ffoto gan Miryam León ar Unsplash

You may also be interested in

Janet

Visiting Aberconwy Domestic Abuse Service

Monday, 23 March, 2026
On Friday, Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, visited the Aberconwy Domestic Abuse Service.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree