Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, is delighted to see that there are now plans to increased the speed and frequency of services along the North Wales Coast Mainline.
Transport for Wales plans to increase rail capacity by 40 percent and add 50 percent more timetabled services by 2026.
This will require changes at a number of level crossings to be able to operate these additional services on the line.
Network Rail and TfW will now jointly undertake development work to close four level crossings along the line, with proposals including a temporary footbridge, and in future, a permanent, accessible footbridge near Pensarn, closing two footpath crossings. A similar approach will be implemented at Prestatyn.
Commenting on the news Janet said:
“While these plans are long overdue, I am delighted to see that time and money is being spent in North Wales, especially on our neglected railways.
“The North Wales Coast Mainline has been overlooked for many years, with electrification repeatedly delayed despite its importance to the region. Connecting key towns and cities in North Wales with the wider rail network in England, the line is seen as vital for enhancing connectivity, cutting carbon emissions, and boosting the local economy.
“Although several promises have been made, it was only under the previous Conservative government that a firm commitment to fully electrify the line was made. Although, this sadly hangs in the balance following the change in government”
“Only now we are seeing the Welsh Government finally engage with developing the line.
"However, I should point out that we are still a long way from resolving the ongoing issue of the permanent closure of the footpath crossing on the Llandudno Junction to Llandudno branch line in Deganwy."
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy, yn falch tu hwnt o weld bod yna gynlluniau i gynyddu cyflymder ac amlder gwasanaethau ar hyd Prif Linell Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru’n bwriadu cynyddu capasiti rheilffyrdd 40 y cant ac ychwanegu 50 y cant yn fwy o wasanaethau at yr amserlen erbyn 2026.
Bydd hyn yn gofyn am wneud newidiadau ar nifer o groesfannau rheilffordd er mwyn gallu gweithredu'r gwasanaethau ychwanegol hyn ar y llinell.
Bydd Network Rail a TrC yn gwneud gwaith datblygu ar y cyd yn awr i gau pedair croesfan reilffordd, gyda chynigion yn cynnwys pont droed dros dro, ac yn y dyfodol, pont droed barhaol a hygyrch ger Pensarn, gan gau dwy groesfan llwybr troed. Bydd dull tebyg yn cael ei weithredu ym Mhrestatyn.
Wrth sôn am y newyddion dywedodd Janet:
“Er bod y cynlluniau hyn yn hir-ddisgwyliedig, rwy'n falch iawn o weld bod amser ac arian yn cael ei wario yn y Gogledd, yn enwedig ar ein rheilffyrdd sydd wedi'u hesgeuluso.
“Mae Prif Linell Arfordir Gogledd Cymru wedi cael ei hanwybyddu ers blynyddoedd lawer, gyda thrydaneiddio'n cael ei ohirio dro ar ôl tro er gwaethaf ei bwysigrwydd i'r rhanbarth. Drwy gysylltu trefi a dinasoedd allweddol yn y Gogledd â'r rhwydwaith rheilffyrdd ehangach yn Lloegr, mae'r llinell yn cael ei hystyried yn hanfodol ar gyfer gwella cysylltedd, lleihau allyriadau carbon, a rhoi hwb i'r economi leol.
“Er bod sawl addewid wedi'i wneud, dim ond o dan y llywodraeth Geidwadol flaenorol y gwnaed ymrwymiad cadarn i drydaneiddio'r lein yn llawn. Er, yn anffodus mae hyn yn y fantol yn dilyn y newid yn y llywodraeth.”
“Dim ond nawr rydym yn gweld Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i ddatblygu'r llinell o'r diwedd.
“Fodd bynnag, dylwn nodi ein bod yn dal yn bell o ddatrys y broblem barhaus o gau'r groesfan llwybr troed yn barhaol ar linell gangen Cyffordd Llandudno i Landudno yn Neganwy.”
DIWEDD