Half term offers our hardworking teachers and pupils the chance to rest after a busy school term. However, it also provides residents and visitors alike with an opportunity to visit our local businesses and facilities and experience all that our area has to offer.
Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Bangor, Conwy Môn, is encouraging people to think local this half term. Commenting, she said:
“Bangor, Conwy Môn, is a wonderful destination and rightly a popular choice for visitors. Yet, even for our local residents, the half-term break and the quickly approaching Christmas season provide a wonderful opportunity to visit our local shops and enjoy our incredible facilities.
“There truly is something for everyone here, and by thinking local, we can help support our high streets, which in turn helps to boost our local economy.
“Whether it’s enjoying a meal at a local restaurant, browsing our independent shops, or making the most of the fantastic facilities and attractions on our doorstep, every visit makes a difference. I encourage everyone to support our local businesses this half term and beyond.”
END
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Mae hanner tymor yn gyfle i’n hathrawon a’n disgyblion orffwys ar ôl tymor prysur o waith caled yn yr ysgol. Fodd bynnag, mae hefyd yn rhoi cyfle i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd ymweld â’n busnesau a’n cyfleusterau lleol a phrofi popeth sydd gan ein cynefin i’w gynnig.
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Fangor Conwy Môn, yn annog pobl i feddwl yn lleol yr hanner tymor hwn. Dywedodd:
“Mae Bangor Conwy Môn yn gyrchfan wych ac yn ddewis poblogaidd i ymwelwyr. Ond hyd yn oed i’n trigolion lleol, mae’r egwyl hanner tymor a thymor y Nadolig sy’n prysur agosáu yn gyfle gwych i daro heibio ein siopau lleol a mwynhau ein cyfleusterau anhygoel.
“Mae rhywbeth at ddant pawb yma, a thrwy feddwl yn lleol, gallwn helpu i gefnogi ein stryd fawr, sydd yn ei dro yn rhoi hwb i’n heconomi leol.
“P’un ai mwynhau pryd o fwyd mewn bwyty lleol, pori drwy’n siopau annibynnol, neu wneud y gorau o’r cyfleusterau a’r atyniadau gwych ar garreg ein drws, mae pob ymweliad yn gwneud gwahaniaeth. Felly, rwy’n annog pawb i gefnogi ein busnesau lleol yr hanner tymor hwn a thu hwnt.”
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS