Janet Finch-Saunders MS has raised concerns after some residents across the Bangor Conwy Môn constituency experienced disruption to their water supply, with some households reporting being left without water for five days.
Janet Finch-Saunders has contacted Dŵr Cymru Welsh Water seeking an urgent update on the issues affecting residents, including what action is being taken to restore supplies and what support is available to those impacted. Concerns have also been raised about communication with affected households, with residents seeking clearer updates and assistance during the disruption.
Janet Finch-Saunders, Senedd Member for Bangor Conwy Môn said:
“Access to a reliable water is essential, and I understand the frustration and concern felt by residents who have experienced disruption, particularly those who have been without water for a number of days.
Residents have contacted me to express concerns about the support and communication they have received during this period. More needs to be done to ensure people affected by these issues receive timely information and appropriate assistance.
I have raised these concerns with Dŵr Cymru Welsh Water and will continue to seek updates on the situation to ensure residents’ concerns are heard and that lessons are learned for the future.”
Mae Janet Finch-Saunders AS wedi codi pryderon ar ôl i rai trigolion ar draws etholaeth Bangor Conwy Môn brofi tarfu gyda’u cyflenwad dŵr, gyda rhai aelwydydd yn dweud eu bod nhw wedi bod heb ddŵr am bum niwrnod.
Mae Janet Finch-Saunders wedi cysylltu â Dŵr Cymru i ofyn am ddiweddariad brys ar y problemau sy'n effeithio ar drigolion, gan gynnwys y camau sy'n cael eu cymryd i adfer cyflenwadau a pha gymorth sydd ar gael i'r rhai yr effeithir arnyn nhw. Mae pryderon hefyd wedi'u codi am gyfathrebu ag aelwydydd yr effeithir arnyn nhw, gyda thrigolion yn ceisio diweddariadau a chymorth cliriach yn ystod y tarfu.
Meddai Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Fangor Conwy Môn:
"Mae mynediad at ddŵr dibynadwy yn hanfodol, ac rwy'n deall y rhwystredigaeth a'r pryder a deimlir gan drigolion sydd wedi profi tarfu, yn enwedig y rhai sydd wedi bod heb ddŵr am nifer o ddyddiau.
Mae trigolion wedi cysylltu â mi i fynegi eu pryderon am y gefnogaeth a'r cyfathrebu maen nhw wedi'u derbyn yn ystod y cyfnod hwn. Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl yr effeithir arnyn nhw gan y materion hyn yn derbyn gwybodaeth amserol a chymorth priodol.
Rwyf wedi codi'r pryderon hyn gyda Dŵr Cymru a byddaf yn parhau i geisio casglu'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa i sicrhau bod pryderon trigolion yn cael eu clywed a bod gwersi yn cael eu dysgu ar gyfer y dyfodol."