Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

MS Joins NFU Cymru in Celebrating Welsh Beef / AS yn ymuno ag NFU Cymru i ddathlu cig eidion Cymru

  • Tweet
Tuesday, 10 February, 2026
  • Local News
J

The Member of the Senedd for Aberconwy, Janet Finch-Saunders, joined NFU Cymru last Friday at celebrity chef Bryn Williams’ restaurant in Porth Eirias on the Colwyn Bay promenade to celebrate world-renowned Welsh beef. Bryn Williams prepared and served a variety of Welsh beef dishes, along with desserts made using local dairy produce, showcasing the exceptional quality and flavour of authentic Welsh food.

 

The event was for NFU Cymru to launch its new Welsh Suckler Beef Production: Addressing Decline and Securing a Sustainable Future report. This report highlighted that Wales is home to around 6,000 suckler cow herds, contributing £390 million to the Welsh economy and accounting for approximately 18.6% of total agricultural output. Despite this significant contribution, the number of suckler herds has fallen sharply, declining by almost 40% from 10,816 in 2004 to 6,595 in 2023. Rising production costs and tight margins mean many businesses are struggling to remain viable without support. Suckler producers also face the ongoing threat of bovine TB and must operate within a highly regulated environment, bringing substantial additional costs and placing disproportionate pressure on small family farms. Nevertheless, demand for Welsh beef remains strong, even as UK beef imports continue to rise.

 

Farmers across Wales have been under increasing pressure as a result of recent Welsh Government policies that have added cost, complexity and uncertainty to an already challenging industry. Many farms across Wales have felt unsupported and burdened by excessive regulation.

 

Janet Finch-Saunders MS/AS has been a strong supporter of farms in her Aberconwy constituency, calling for reduced regulation and fewer constraints within the Welsh Government’s Sustainable Farming Scheme, while reaffirming the importance of food self-sufficiency delivered through the hard work of farmers across Wales.

Janet Finch-Saunders, Senedd Member for Aberconwy said:

“I was delighted to be invited by NFU Cymru to join them in celebrating the outstanding  Welsh Beef and local produce prepared by the hugely talented chef Bryn Williams at his renowned restaurant.

 

It was insightful to hear from NFU Cymru leaders and the farmers themselves, and to learn  first-hand about the dedication and hard work that goes into producing some of the best food in the world.

 

I have always stood firmly behind farmers in Wales and understand the vital role they play in our country. The Welsh Government must stop making their lives harder than they need to be with too much red tape and instead work side by side with them, giving them the support they need to continue this essential work for generations to come.”

Ddydd Gwener diwethaf, ymunodd yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders, ag NFU Cymru ym mwyty'r cogydd enwog Bryn Williams ym Mhorth Eirias ar bromenâd Bae Colwyn i ddathlu cig eidion byd-enwog Cymru. Aeth Bryn Williams ati i baratoi a gweini gwledd o brydau cig eidion Cymru, ynghyd â phwdinau wedi'u gwneud gan ddefnyddio cynnyrch llaeth lleol, gan arddangos ansawdd a blas eithriadol bwyd godidog Cymru.

 

Cynhaliwyd y digwyddiad er mwyn i NFU Cymru lansio ei adroddiad newydd Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig: Mynd i’r Afael â’r Dirywiad a Sicrhau Dyfodol Cynaliadwy. Tynnodd yr adroddiad hwn sylw at y ffaith bod Cymru yn gartref i oddeutu 6,000 o fuchesi buchod sugno, sy'n cyfrannu £390 miliwn at economi Cymru ac yn cyfrif am oddeutu 18.6% o gyfanswm yr allbwn amaethyddol. Er gwaethaf y cyfraniad sylweddol hwn, mae nifer y buchesi sugno wedi gostwng yn sydyn, gan ostwng bron i 40% o 10,816 yn 2004 i 6,595 yn 2023. Mae costau cynhyrchu cynyddol a chostau ychwanegol yn golygu bod llawer o fusnesau yn cael trafferth parhau i fod yn hyfyw heb gefnogaeth. Mae cynhyrchwyr buchod sugno hefyd yn wynebu'r bygythiad parhaus o TB mewn gwartheg ac mae'n rhaid iddyn nhw weithredu mewn amgylchedd rheoledig iawn, gan ddod â chostau ychwanegol sylweddol a rhoi pwysau anghymesur ar ffermydd teuluol bach. Fodd bynnag, mae galw mawr o hyd am gig eidion Cymru, hyd yn oed wrth i fewnforion cig eidion y DU barhau i godi.

 

Mae ffermwyr ledled Cymru wedi bod o dan bwysau cynyddol o ganlyniad i bolisïau diweddar Llywodraeth Cymru sydd wedi ychwanegu cost, cymhlethdod ac ansicrwydd i ddiwydiant sydd eisoes yn heriol. Mae llawer o ffermydd ledled Cymru wedi teimlo nad ydynt yn cael cefnogaeth ac o dan bwysau yn sgil rheoleiddio gormodol.

 

Mae Janet Finch-Saunders AS wedi bod yn gefnogwr brwd o ffermydd yn ei hetholaeth yn Aberconwy, ac wedi galw am lai o reoleiddio a llai o gyfyngiadau o fewn Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, gan ailddatgan pwysigrwydd bod yn hunangynhaliol o ran bwyd a sicrheir gan waith caled ffermwyr ledled Cymru.

 

Meddai Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd Aberconwy:

"Roeddwn i’n falch iawn o gael gwahoddiad gan NFU Cymru i ymuno â nhw i ddathlu Cig Eidion Cymru a'r cynnyrch lleol rhagorol a baratowyd gan y cogydd hynod dalentog Bryn Williams yn ei fwyty enwog.

 

Roedd hi’n ddiddorol clywed gan arweinwyr NFU Cymru a'r ffermwyr eu hunain, ac i ddysgu o lygad y ffynnon am yr ymroddiad a'r gwaith caled sydd eu hangen i gynhyrchu peth o’r bwyd gorau yn y byd.

 

Rydw i wastad wedi sefyll yn gadarn o blaid ffermwyr yng Nghymru ac yn deall y rôl hanfodol y maen nhw’n ei chwarae yn ein gwlad. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i wneud eu bywydau'n anoddach nag sydd ei angen, gyda gormod o fiwrocratiaeth. Yn hytrach dylent weithio ochr yn ochr â nhw, gan roi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i barhau â'r gwaith hanfodol hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol."

You may also be interested in

J

MS Presses First Minister on PET Scan Access in North Wales

Thursday, 12 February, 2026
Janet Finch-Saunders MS recently raised concerns during First Minister’s Questions in the Senedd with the First Minister, Eluned Morgan, about the lack of locally available PET scan services in North Wales.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree