Janet Finch-Saunders MS has backed calls for action following a public meeting held in the Emmanuel Centre in Llandudno on Thursday 16th July, involving residents, community representatives and North Wales Police, to discuss concerns around vandalism and anti-social behaviour in Llandudno.
The meeting provided an opportunity for residents and local representatives to raise concerns about ongoing issues around Llandudno Town Hall and certain streets in the Gogarth ward. Residents have highlighted the impact of vandalism, damage to property and anti-social behaviour on the local community, with concerns that more needs to be done to address these problems.
Janet Finch-Saunders, Senedd Member for Bangor Conwy Môn said:
“I welcome the opportunity for residents and partner organisations to come together and discuss the concerns being experienced by parts of the Llandudno community.
The reports of vandalism and anti-social behaviour affecting the town are deeply concerning. Residents should be able to feel safe in their communities, and local businesses and visitors should not have to deal with the disruption caused by this type of behaviour.
It is clear that something needs to be done to address these issues around Llandudno. Tackling anti-social behaviour requires a joined-up approach between North Wales Police, local representatives, community organisations and residents, and I will continue to support efforts to ensure these concerns are listened to and acted upon.”
Mae Janet Finch-Saunders AS wedi cefnogi galwadau i weithredu yn dilyn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yng Nghanolfan Emmanuel yn Llandudno, ddydd Iau 16 Gorffennaf, yn cynnwys trigolion, cynrychiolwyr cymunedol a Heddlu Gogledd Cymru, i drafod pryderon ynghylch fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Llandudno.
Rhoddodd y cyfarfod gyfle i drigolion a chynrychiolwyr lleol rannu pryderon am broblemau sy’n dal i barhau o amgylch Neuadd y Dref Llandudno a rhai strydoedd yn ward y Gogarth. Mae trigolion wedi tynnu sylw at effaith fandaliaeth, difrod i eiddo ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y gymuned leol, gyda phryderon bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael â'r problemau hyn.
Meddai Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Fangor Conwy Môn:
"Rwy'n croesawu'r cyfle i drigolion a sefydliadau partner ddod at ei gilydd a thrafod y pryderon sy'n cael eu profi gan rannau o gymuned Llandudno.
Mae'r adroddiadau o fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n effeithio ar y dref yn destun pryder mawr. Dylai trigolion allu teimlo'n ddiogel yn eu cymunedau, ac ni ddylai busnesau lleol ac ymwelwyr orfod delio â'r aflonyddwch a achosir gan y math hwn o ymddygiad.
Mae'n amlwg bod angen gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r problemau hyn o amgylch Llandudno. Mae mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gofyn am ddull cydgysylltiedig rhwng Heddlu Gogledd Cymru, cynrychiolwyr lleol, sefydliadau cymunedol a thrigolion, a byddaf yn parhau i gefnogi ymdrechion i sicrhau bod y pryderon hyn yn cael eu clywed a bod rhywbeth yn cael ei wneud i’w datrys."