Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

“Methiannau sylweddol” Cyngor Tref Penmaenmawr

  • Tweet
Thursday, 24 October, 2019
  • Local News

Yn dilyn adroddiadau yn y cyfryngau bod cronfeydd ariannol wrth gefn Cyngor Tref Penmaenmawr wedi’u defnyddio bron i gyd a bod angen cyflwyno toriadau brys i gydbwyso’r llyfrau, a bod trigolion lleol wedi codi pryderon difrifol, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi ei hadolygiad o gyfrifon y Cyngor ar gyfer 2013-14 hyd 2018-19. Mewn ymateb i’r casgliadau, mae Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, wedi galw ar Gyngor Tref Penmaenmawr i dderbyn yr holl gynigion a gweithredu ar yr holl argymhellion. Hefyd, mae’n gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu’r cyngor a’r canllawiau sydd ar gael i gynghorau tref a chymuned ledled Cymru yn y gobaith o osgoi argyfwng ariannol tebyg eto.   

 

Mae’r casgliadau niferus yn codi braw. Fel yr ysgrifennodd Archwilydd Cyffredinol Cymru: “Mae canfyddiadau fy archwiliad yn dangos diffygion hirsefydlog o ran llywodraethu, rheolaeth ariannol a rheolaeth fewnol yn y Cyngor a chânt eu crynhoi isod. Maent hefyd yn datgelu tensiynau a diffyg parch ac ymddiriedaeth rhwng aelodau o’r Cyngor a’i gilydd nad ydynt o fudd i’w enw da nac o ran darparu gwasanaethau ar gyfer y trigolion”.

 

Mae’r casgliadau yn cynnwys:

  1. Mae’r Cyngor wedi bod yn gwario ar lefel anghynaladwy dros y tair blynedd ddiwethaf a dim ond am amser cyfyngedig y mae wedi gallu dibynnu ar ei gronfeydd ariannol wrth gefn.
  2. Mae’n iawn fod gorwariant y Cyngor yn achos pryder i’r cyhoedd.
  3. Mae’r Cyngor wedi ymddiheuro am ei reolaeth ar gyllid cyhoeddus ac yn derbyn nad yw hyn yn gyson â’r safonau uchel a ddisgwylir gan gyngor lleol.
  4. Mae swyddogion presennol a chyn-swyddogion y Cyngor a’r Cynghorwyr eu hunain yr un mor atebol am y methiannau hyn.
  5. Ni wnaeth y Cyngor graffu digon ar y cyfrifon a’r datganiad llywodraethu blynyddol cyn cymeradwyo’r ffurflen flynyddol.
  6. Mae trefniadau llywodraethu’r Cyngor yn anghyson â’r datgeliadau cadarnhaol y mae’n eu gwneud amdanynt yn ei Gyfrifon Blynyddol, ac mae’r datgeliadau hyn yn ffeithiol anghywir ac yn gamarweiniol.
  7. Roedd trefniadau’r Cyngor ar gyfer pennu a monitro’r gyllideb yn aneffeithiol ac ni wnaethant ei ddiogelu rhag yr orddibyniaeth ar gronfeydd ariannol wrth gefn.
  8. Nid dealltwriaeth briodol o gyfansoddiad ei gronfeydd wrth gefn nac unrhyw reolaethau effeithiol i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n unol â’u dibenion bwriedig.
  9. Fe wnaeth archwilydd mewnol y Cyngor uwchgyfeirio ei bryderon am wendidau yn y trefniadau ar gyfer pennu a monitro’r gyllideb ond fe wnaeth y rhain osgoi sylw’r Cyngor.
  10. Nid yw trefniadau’r Cyngor i sicrhau datganiadau buddiant priodol yn ddigon tryloyw ac maent yn lleihau hyder y cyhoedd yn ei atebolrwydd.
  11. Mae angen i’r Cyngor wella cysondeb a thryloywder ei drefniadau caffael hefyd.
  12. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod aelodau o’r Cyngor wedi elwa’n bersonol ar bwrs y wlad.
  13. Nodwyd tensiynau sylweddol o fewn aelodaeth y Cyngor.
  14. Nid rôl yr Archwilydd yw rhoi bai ar unrhyw grŵp neu unigolyn yn y Cyngor am y tensiynau sy’n amlwg o’i archwiliad, ond “bod y sefyllfa’n niweidio enw da’r Cyngor a’i bod yn niweidiol i fuddiannau’r gymuned leol”.

 

Wrth ymateb i’r adroddiad, meddai Janet:

 

“Rwy’n diolch i’r Archwilydd Cyffredinol am gynnal ymchwiliad mor drylwyr.

 

“Rwy’n gwerthfawrogi’r ffaith fod Cyngor Tref Penmaenmawr yn cefnogi sawl prosiect cymunedol, ond mae’n ymddangos yn hynod anghyfrifol i mi ei fod wedi gwario ar lefel anghynaliadwy dros y tair blynedd diwethaf.

 

“Hyn ar adeg pan mae trigolion Penmaenmawr wedi wynebu cynnydd aruthrol yn eu praesept y dreth gyngor.

 

“Erbyn hyn, mae Cyngor Tref Penmaenmawr ar seiliau ariannol mwy cynaliadwy, ond credaf fod rhaid cael rhywfaint o atebolrwydd am yr hyn a alwodd yr Archwilydd yn ‘argyfwng ariannol’.

 

“Ar ben hynny, mae’n drist deall am honiadau o ddiwylliant o fwlio a bod cynghorwyr wedi bod yn pleidleisio fel defaid heb y wybodaeth berthnasol.

 

“Mae’n ofynnol i’r Cyngor drin a thrafod yr adroddiad mewn cyfarfod llawn o fewn mis i’w gyhoeddi, a phenderfynu pa gamau i’w cymryd mewn ymateb.

 

“Rwy’n galw ar y cynghorwyr sy’n weddill i ystyried derbyn a gweithredu holl argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol, a chyflwyno datganiad i’r perwyl hwnnw.

 

“Byddaf yn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu’r cyngor a’r canllawiau sydd ar gael i holl gynghorau tref a chymuned ein gwlad, gan obeithio na welwn ni’r fath argyfwng ariannol yn codi byth eto.”

 

 

DIWEDD

 

 

Nodiadau:

 

Council overspending exhausts reserves

 

Penmaenmawr's financial reserves almost exhausted

You may also be interested in

Janet

Come and Raise Your Concerns

Monday, 12 January, 2026
Do you have any concerns about poor access to GP appointments, annual council tax increases, delays in hospital treatment, anti-social behaviour, or anything else? Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, is holding a public meeting to discuss the issues that matt

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree