
Menai Heating was founded in 2001 originally as a plumbing and heating service company. By now they have shifted focus to combat fuel poverty, reduce the UK’s carbon footprint, and provide warmth to their customers, all through the Energy Company Obligation Scheme.
For 24 years the business has been helping homeowners, landlords, councils and tenants by delivering heating, renewable, and insulation solutions. Their team of engineers, installers, and surveyors undergo rigorous training to meet high standards.
Commenting after meeting Lee Maher, Director, Janet Finch-Saunders MS, Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment said:
“At a time when constituents repeatedly raise concerns with me about poor standard of workmanship, it is a genuine pleasure to be able to praise Menai Heating Ltd.
“I am extremely impressed by the professionalism of the businesses, their commitment to employing and up-skilling locals, and pursuit of high standards.
“At a time when energy bills are going up, all of us are looking for more efficient systems and technologies. From the discussion I had with Lee, and the feedback I have received from some of his customers, it is apparent that Menai Heating Ltd deserves its excellent reputation. I sincerely thank the business for its service to North Wales”.
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS with Lee Maher, Director, Menai Heating Ltd
Sefydlwyd Menai Heating yn 2001 yn y lle cyntaf fel cwmni gwasanaeth plymio a gwresogi. Erbyn hyn maen nhw wedi symud eu ffocws i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, lleihau ôl troed carbon y DU, a darparu cynhesrwydd i'w cwsmeriaid, i gyd trwy Gynllun Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni.
Ers 24 mlynedd mae'r busnes wedi bod yn helpu perchnogion tai, landlordiaid, cynghorau a thenantiaid trwy ddarparu gwasanaethau gwresogi, ynni adnewyddadwy ac inswleiddio. Mae eu tîm o beirianwyr, gosodwyr a syrfewyr yn cael hyfforddiant trwyadl i fodloni safonau uchel.
Yn ei sylwadau ar ôl cwrdd â Lee Maher, Cyfarwyddwr, dywedodd Janet Finch-Saunders AS, Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd:
"Ar adeg pan mae etholwyr dro ar ôl tro yn codi pryderon gyda mi am safon wael crefftwaith mae'n bleser o’r mwyaf gallu canmol Menai Heating Ltd.
"Mae proffesiynoldeb y busnes, eu hymrwymiad i gyflogi ac uwchsgilio pobl leol, a’u hymroddiad i safonau uchel wedi creu argraff fawr arna i.
"Ar adeg pan mae biliau ynni yn codi, mae pob un ohonom ni’n chwilio am systemau a thechnolegau mwy effeithlon. O'r drafodaeth a gefais gyda Lee, a'r adborth rydw i wedi'i dderbyn gan rai o'i gwsmeriaid, mae'n amlwg bod Menai Heating Ltd yn haeddu ei enw da. Diolch o galon i'r busnes am ei wasanaeth i’r Gogledd".
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders A gyda Lee Maher, Cyfarwyddwr, Menai Heating Ltd