Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

“Meddyliwch am effaith y cyfyngiadau symud ar les meddyliol perchnogion busnes lleol” meddai AS Aberconwy

  • Tweet
Wednesday, 14 October, 2020
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (14 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS – wedi defnyddio dadl y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd i erfyn ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r Gronfa i Fusnesau dan y Cyfyngiadau Lleol, wrth iddi siarad am ei phryder am les meddyliol entrepreneuriaid lleol.

Anogodd Mrs Finch-Saunders Lywodraeth Cymru hefyd i ailystyried ei hymagwedd at y cyfyngiadau, gan alw ar y weinyddiaeth i gyhoeddi data’n rheolaidd ar sail wardiau awdurdodau lleol. Gosodwyd cyfyngiadau coronafeirws lleol iawn yn ddiweddar ym Mangor a Llanelli, tra bod mesurau drwy’r sir ar waith yng Nghonwy.

Gan roi sylwadau ar ei haraith, dywedodd Janet:

“Bron i bythefnos ers lansio’r cyfyngiadau lleol yn sir Conwy ac rwy’n gofyn ar Lywodraeth Cymru i feddwl am yr effaith negyddol ar iechyd meddwl yn yr hirdymor y mae’r cyfyngiadau presennol yn eu cael ar berchnogion busnes lleol sy’n brwydro i fodoli ar hyn o bryd.

“Mae angen cymorth ariannol ar unwaith tra bod y cyfyngiadau’n parhau yng Nghonwy. Dydy Grant y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol, sydd eisoes yn hwyr, ddim yn ddigon. Mae swyddi a bywoliaethau yn y fantol, a amlygwyd gan dystiolaeth yr adroddiad diweddar ar ganol trefi, a ddatgelodd fod 40.9% o weithwyr Llandudno mewn sectorau sydd wedi gorfod cau.

“Mae rheol 21 diwrnod y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol yn profi nad yw’r weinyddiaeth hon yn gwybod beth yw realiti’r sefyllfa. Mae gadael i’r gronfa hon weithredu ar sail y cyntaf i’r felin hefyd yn ei gwneud yn rhyw fath o ras. Mae’n sarhaus ar bob busnes sydd wedi’u heffeithio.

“Rwyf wedi erfyn yn gyson am ddull hyperleol a fyddai’n tarfu llai. Sut ydym wedi cyrraedd y pwynt hwn lle mae Llywodraeth Cymru yn cadw data lleol ar gyfer Bangor, Pen-y-bont ar Ogwr, Llanelli, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, ond ddim ar Sir Conwy?

“Alla’i ddim gweld cyfiawnhad i Lywodraeth Cymru beidio â chyhoeddi data’n gyson ar nifer y profion positif ar sail wardiau awdurdodau lleol. Mae cymunedau lleol yn haeddu gwybod a oes cofnod o COVID-19 yn y pentref, yn hytrach na gweithredu ar sail Conwy gyfan.”

DIWEDD

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree