Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

‘Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymestyn y bonws £500 i weithwyr hosbisau ein gwlad’

  • Tweet
Tuesday, 14 July, 2020
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi gofyn eto i fonws gofal cymdeithasol £500 Llywodraeth Cymru cael ei ymestyn i’r rhai sy’n gweithio yn hosbisau’r wlad.

Mae Mrs Finch-Saunders wedi bod yn ymgyrchu i ymestyn cymhwystra’r bonws ers cryn amser. Yng nghyfarfod llawn y Senedd yr wythnos diwethaf, gofynnodd i Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru godi mater ymestyn y taliad i weithwyr hosbisau ar unwaith gyda’r Prif Weinidog.

Gan roi ei sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd:

“Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i wneud y peth iawn ac ymestyn y meini prawf cymhwystra  i’r rhai sy’n gweithio yn hosbisau ein cenedl, er mwyn cydnabod ymroddiad anhunanol aelodau staff.

“Rwy’n edmygu gwaith diflino gweithwyr hosbisau drwy’r pandemig hwn. Maen nhw’n chwifio baner ein gwlad drugarog, gan ddarparu gofal uniongyrchol i rai o bobl fwyaf bregus ein cymdeithas.

“Ers yn rhy hir, dydy ein hosbisau ddim wedi bod yn derbyn cyllid digonol gan Lywodraeth Lafur Cymru. Ni all fod yn iawn fod y sefydliadau hyn yn dibynnu cymaint ar roddion gan y cyhoedd, a hwythau’n darparu gofal lliniarol hollbwysig i rai â chyflyrau terfynol a chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau.

“Mae’n rhaid i Vaughan Gething ymchwilio ar unwaith i sut gall ei weinyddiaeth roi’r taliad llawn o £500 i’r holl staff cymorth sy’n gweithio yn hosbisau ein gwlad.”

DIWEDD

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree